Gwasanaeth Seicoleg Addysgol

Ynglŷn â'r Tîm:
  • Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol (GSA) yn cynnwys tîm o Seicolegwyr Addysgol (SA) cymwysedig. Mae pob un ohonom â gradd mewn Seicoleg a chymhwyster ôl-raddedig ychwanegol mewn Seicoleg Addysgol. Mae gennym wybodaeth ac arbenigedd a’r profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn sefyllfaoedd addysgol. Mae pob Seicolegydd Addysgol cymwysedig wedi’i gofrestru fel seicolegydd ymarfer gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal – Health and Care Professions Council (HCPC). Mae'r tîm yn cynnwys Seicolegwyr Addysgol Cynorthwyol hefyd. Mae’r Seicolegwyr Addysgol Cynorthwyol yn raddedigion Seicoleg a gyflogir i gynorthwyo gwaith Seicolegwyr Addysgol i ennill profiad perthnasol o’r rôl. Maent yn gweithio o dan arweiniad y Dirprwy Brif Seicolegydd Addysgol a Seicolegwyr Addysgol  y gwasanaeth gyda goruchwyliaeth briodol, yn unol â chanllawiau ‘Safonau Perfformiad, Ymddygiad a Moeseg’ yr HCPC a chanllawiau’r Association of Educational Psychologists (AEP). Pan mae cyfle’n codi rydym yn cynnig cyfleoedd, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd i Seicolegwyr Addysgol dan Hyfforddiant, sy’n siaradwyr Cymraeg, ddod ar leoliad i Wynedd ac Ynys Môn yn ystod eu cwrs Doethuriaeth mewn Seicoleg Addysgol.

 

Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?

  • Mae'r GSA yn cydweithio â staff ysgol i’w cefnogi i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys anghenion emosiynol, ymddygiadol, lles ac iechyd meddwl, anawsterau dysgu ychwanegol penodol, anghenion niwroamrywiol, plant/pobl ifanc ar y sbectrwm awtistiaeth, a mwy.
  • Mae’r gefnogaeth yn cael ei deilwra i gyfarch anghenion penodol pob ysgol, boed hynny ar lefel dalgylch, unigol neu ysgol gyfan. Oherwydd gostyngiad yn nifer y Seicolegwyr Addysgol sy'n gweithio yn ein gwasanaeth a heriau recriwtio cenedlaethol, rydym wedi addasu ychydig ar ein ffordd o weithio. Rydym bellach yn defnyddio model o weithio yn ymgynghorol gyda dalgylch cyfan i sicrhau parhad y gwasanaeth i ysgolion.

 

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

 

Pwy ydi’r tîm?

Prif Seicolegydd Addysgol

Ffion Edwards Ellis

Dirprwy Brif Seicolegydd Addysgol

Elenid Glyn (maes Cynhwysiad)

Uwch Seicolegydd Addysgol

Iona Rees (maes Blynyddoedd Cynnar)

Einir Peters (maes Cyfathrebu a Rhyngweithio)

Seicolegydd Addysgol

Llio Rhisiart

Sioned Griffiths

Nia Gwawr Pierce

Ruth Williams

Seicolegydd Addysgol Cynorthwyol

Ffion Angharad Roberts

Hanna Elin Hughes

Elin Fflur Jones

 

Sut mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth?

  • Mae gan bob ysgol Seicolegydd Addysgol cyswllt, sydd yn gweithredu ar lefel dalgylch ysgol uwchradd. Mae’r ysgol yn blaenoriaethu gwaith ar y cyd gyda’r seicolegydd mewn cyfarfodydd cynllunio ar ddechrau blwyddyn  addysgol er mwyn sicrhau fod y mewnbwn yn cael ei ddefnyddio yn ôl yr angen. Mae’r pwyslais ar weithredu mewn dull ymgynghorol fel grŵp ar hyn o bryd.
  • Rydym yn gweithio yn agos gyda staff o fewn ysgolion, yn enwedig y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY).
  • Os ydych yn riant sydd yn bryderus am eich plentyn rydym yn awgrymu i chi drafod gyda’r Cydlynydd ADY yn yr ysgol er mwyn trafod ymhellach yn y lle cyntaf.
  • Rydym yn gweithio yn agos iawn gyda’r timau eraill o fewn y Gwasanaeth Integredig ADYaCh ar lefel gweithredol a strategol.

 

Beth ydi rôl y Seicolegydd Addysgol?

  • Defnyddio seicoleg i sicrhau’r deilliannau addysgol gorau posibl ar gyfer unigolion rhwng 0 a 19 oed.
  • Darparu Gwasanaeth sydd o safon uchel ac yn cyd-fynd gyda safonau Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
  • Gweithio mewn modd strategol effeithiol i hybu datblygiad ysgol gyfan yn y ffordd mae ADY a Chynhwysiad yn cael ei dargedu.

 

Beth ydi rôl yr ysgol?

  • Blaenoriaethu gwaith sydd yn fwyaf addas ar gyfer y Seicolegydd Addysgol ar gyfer trafod yn y sesiynau cynllunio. Bydd gan y CADY ddealltwriaeth dda o anghenion y disgyblion a’r profiad/ cymwysterau ar gyfer gwneud y penderfyniadau ynglŷn a blaenoriaethau
  • Casglu tystiolaeth o’r hyn sydd yn gweithio, ddim yn gweithio ac yr hyn sydd angen ei ddatblygu, er mwyn trafod yn y cyfarfod cynllunio
  • Bod yn bwynt cyswllt rhwng y Seicolegydd Addysgol a’r rhieni wrth drefnu cyfarfodydd a rhannu gwybodaeth am rôl y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol
  • Os yw rhieni wedi rhoi caniatâd i’w plentyn gael ei drafod mewn ymgynghoriad grŵp, bydd gofyn i’r CADY adrodd yn ôl i’r rhieni a dod i gytundeb am ba strategaethau, o’r rhai awgrymwyd, i’w rhoi ar waith mor fuan a phosib yn dilyn hynny. 

 

Y Model Ymgynghorol o weithio:

  • Mae gweithio mewn dull ymgynghorol yn cynnig proses o ddatrys problemau ar y cyd gyda rôl y seicolegydd addysgol fel hwylusydd i ddarganfod mwy o wybodaeth am sefyllfa o safbwynt y cleient (person ifanc, rhiant a staff ysgol).
  • Mae pawb sy’n rhan o'r broses ymgynghorol yn dod ag arbenigedd i’r drafodaeth (gyda’r seicolegydd yn dod gyda’u harbenigedd mewn seicoleg)
  • Mae’n cynnig y cyfle i archwilio safbwyntiau gwahanol er mwyn deall y sefyllfa fewn ffordd sydd yn caniatáu i newid ddigwydd• Mae’r model yn cynnig y cyfle i archwilio y sefyllfa mewn manylder gan ystyried ymddygiad yng nghyd destun amgylchedd.
  • Mae’n cynnig y cyfle i archwilio cryfderau a sgiliau yn ogystal a rhwystrau i’r datblygiad.
  • Mae’r broses wedi ei wreiddio mewn sawl model seicolegol (e.e. Solution Focus, Personal Construct Psychology, Seicoleg Rhyngweithiol)
  • Mae'r broses gynllunio ac ymgynghori ar y cyd yn dileu'r angen i atgyfeirio i'r gwasanaeth, gan sicrhau fod dim rhestrau aros.
  • Yn dilyn ymgynghoriadau bydd cyfnod o weithredu ac adolygu, gan bwysleisio asesu cynnydd plentyn neu berson ifanc dros amser mewn ymateb i strategaethau penodol a ddefnyddir gan yr ysgol. Pan fydd unrhyw asesiad yn cael ei gynnal gan aelod o'r tîm, dylai hyn fod o fewn cyd-destun y gwaith partneriaeth hwn, a'u barn broffesiynol ei fod yn ofynnol er mwyn rhoi'r strategaethau priodol ar waith.

 

Adnoddau gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol

 

Cefnogi yn dilyn trawma

 

Adnoddau pellach 

    • Enw: Rhestr o lyfrau stori therapiwtig.pdf
    • Iaith: Cymraeg
    • Disgrifiad: Mae llyfrau hunan helpu ar gael o lyfrgelloedd Gwynedd i gefnogi materion rhiantu fel problemau ymddygiad mewn plant, problemau cwsg mewn plant, cystadleuaeth rhwng brodyr a chwiorydd, materion ynghylch yr arddegau, delio gyda sefyllfaoedd anodd penodol
    • Fersiwn Saesneg: Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
    • Enw: A list of therapeutic storybooks.pdf
    • Iaith: English
    • Disgrifiad: A range of self-help books are available from Gwynedd libraries to help with parenting issues such as behavioural problems in children, sleep issues in children, sibling rivalry, issues around teenagers, dealing with particular situations
    • Fersiwn Cymraeg: Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.