Beth mae disgwyl i Ysgol Gyfan ei wneud?

Rolau o fewn yr ysgol

1.       Llywodraethwr Cyswllt ADY a Chynhwysiad

Y Llywodraethwr sydd yn:

  • Sicrhau fod gan yr ysgol fewnbwn gan Gydlynydd Ysgol/Clwstwr â chyfrifoldeb dros gydlynu darpariaeth ar gyfer ADY a Chynhwysiad.
  • Cadarnhau bod gan yr ysgol bolisi ADY a Chynhwysiad a’i fod yn cael ei adolygu’n flynyddol.
  • Bod yn gyfarwydd gyda pholisi ADY a Chynhwysiad yr ysgol, Cod Ymarfer ADY Cymru a bod yn ymwybodol o fentrau ADY yn genedlaethol ac yn lleol, gan Lywodraeth Cymru, Consortiwm Rhanbarthol a’r Awdurdod Lleol.
  • Cyfarfod bob tymor, trwy apwyntiad, gyda’r Cydlynydd Ysgol/Clwstwr ADY a Chynhwysiad i drafod cynnydd ac effeithlonrwydd y polisi ADY a Chynhwysiad (yn unol â pholisi Ymweliadau Llywodraethwyr i Ysgolion).
  • Gweithio gyda’r llywodraethwr cyswllt amddiffyn plant (os yn briodol).
  • Deall sut y mae’r ysgol yn adnabod disgyblion ag ADY a Chynhwysiad a beth sy’n digwydd unwaith y bydd disgybl wedi’i adnabod;
  • Bod yn ymwybodol o’r cynnydd y mae disgyblion unigol gydag ADY yn ei wneud.
  • Bod yn ymwybodol o’r gyllideb sydd ar gael i ADY a Chynhwysiad yn yr ysgol a monitro ei ddefnydd effeithiol.
  • Adrodd, yn flynyddol o leiaf, i’r corff llywodraethu ar weithrediad ac effeithlonrwydd polisi ADY a Chynhwysiad yr ysgol, heb drafod manylion disgyblion unigol.
  • Ysgrifennu, neu helpu i ysgrifennu, gwybodaeth ADY a Chynhwysiad ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr i Rieni
  • Sicrhau bod adran yn llawlyfr yr ysgol ar ddarpariaeth ADY a Chynhwysiad.
  • Diweddaru gwybodaeth ADY a Chynhwysiad trwy fynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol i lywodraethwyr sy’n cael eu rhedeg gan yr Awdurdod Lleol.

 

2.      Pennaeth (Person Cyswllt ADYaCh ym mhob ysgol)

Mae’r Pennaeth yn gyfrifol am:

  • Sicrhau ethos cynhwysol ar lefel ysgol gyfan.
  • Sicrhau fod ethos dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael eu rheadru drwy’r ysgol gyfan ar gyfer personoli’r profiad addysgol.
  • Sicrhau fod Proffil Un Tudalen yn cael ei greu ar gyfer pob disgybl sydd ar y Gofrestr ADY
  • Sicrhau fod systemau’r ysgol yn cyd-fynd â’r gofynion statudol a bod y Cydlynydd Ysgol/Clwstwr ADY a Chynhwysiad yn gweithredu yn unol â’r gofynion yma.
  • Sicrhau, ar y cyd efo’r Llywodraethwr Cyswllt ADY a Chynhwysiad a’r Cydlynydd Ysgol/Clwstwr ADYaCh, fod Polisi ADY a Chynhwysiad yr ysgol yn cael ei diweddaru yn flynyddol.
  • Sicrhau perchnogaeth a dealltwriaeth o ADY a Chynhwysiad ar draws yr ysgol.
  • Sicrhau fod cynnydd disgyblion gyda ADY a Chynhwysiad yn cael ei fonitro a’i fesur.
  • Sicrhau fod defnydd o brofion safonedig, yn unol â’r meini prawf, i asesu cyrhaeddiad disgyblion yn rheolaidd. Arfer dda fyddai gwneud hyn ddwywaith y flwyddyn.
  • Sicrhau fod yna brosesau sganio clir yn bodoli er mwyn adnabod disgyblion a all fod ag ADY a Chynhwysiad yn fuan, fel bod modd ymyrryd yn gynnar.
  • Sicrhau defnydd effeithiol, effeithlon a phriodol o’r cyllid datganoledig ADY a Chynhwysiad er mwyn targedu’r plant sydd angen ymyrraeth.
  • Sicrhau fod systemau yn eu lle i’r Athrawon Dosbarth rannu gwybodaeth gyda’r Cydlynydd Ysgol/Clwstwr ADY a Chynhwysiad.
  • Sicrhau fod ansawdd y dysgu, y gwahaniaethu a’r asesu ar draws yr ysgol yn uchel.

 

3.      Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)

Mae’r unigolyn yma â chyfrifoldeb cyffredinol ar gyfer pob ysgol i:

  • Defnyddio prosesau mapio darpariaeth er mwyn sicrhau fod darpariaeth ADY ysgol gyfan yn cynnig y defnydd gorau o adnoddau.
  • Sefydlu a gweithredu systemau o sgrinio ac adnabod ADY, fel bod modd ymyrryd yn gynnar.
  • Sicrhau fod gofynion addysgu bob disgybl efo ADY yn cael eu cyfarch trwy fonitro gwaith y staff dysgu a’r cymorthyddion yn rheolaidd.
  • Hyrwyddo cynhwysiad o fewn lleoliadau addysgol.
  • Creu perthynas bositif ac agored gyda rhieni disgyblion ADY.
  • Ffynhonnell o arbenigedd ADY drwy ddatblygu sgiliau arbenigol a gwybodaeth.
  • Hyfforddi staff ysgolion gan gynnwys athrawon a chymorthyddion.
  • Cyfrannu i Gynllun Datblygu Ysgol a Hunan Arfarniadau.
  • Adrodd ar ansawdd ADY o fewn yr ysgol i’r Llywodraethwyr a’r Pennaeth/ Uwch Dîm Rheoli.
  • Ymwybyddiaeth glir o Feini Prawf yr A.Ll. a’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi’r ysgol.
  • Cyfrannu i ddatblygiad gweithdrefnau gan gynnwys cynllunio cyllidol strategol a chasglu a dehongli data.
  • Asesiad a’r defnydd o CDU gan ddefnyddio’r dulliau sy’n canolbwyntio ar unigolion.
  • Sicrhau'r defnydd priodol o drefniadau’r A.Ll. wrth geisio osgoi anghytundebau.
  • Gwella eu dysgu proffesiynol eu hunain drwy gysylltu efo’r cydlynwyr eraill er mwyn datblygu a rhannu profiadau ac arfer da.
  • Cryfhau trefniadau ar gyfer cyfnodau trosiannol.
  • Yn adnabod anghenion y disgyblion ADY yn yr ysgol gan gydlynu casglu gwybodaeth ar gyfer ffurfio CDU.
  • Ymgymryd â rôl arweiniol o ran dosbarthiad cymorthyddion ar lefel clwstwr o ysgolion o ganlyniad i drafodaethau Fforymau ADY.

 

4.      Athrawon Dosbarth/Pwnc

Mae angen i bob athro/awes:

  • Cymryd rhan allweddol yn nhrefniadau asesu, sgrinio a monitro cynnydd disgyblion gyda ADY a Chynhwysiad.
  • Sicrhau fod yr awyrgylch ddysgu yn gynhwysol a chroesawgar.
  • Cymryd y cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaus gan fachu ar gyfleon i fynychu a defnyddio hyfforddiant sydd yn cael ei gynnig o fewn y maes ADY a Chynhwysiad.
  • Cwblhau ac addasu agweddau perthnasol o’r Proffil Un Tudalen o fewn Cynllun Datblygu Unigol y disgybl.
  • Gwneud defnydd effeithiol o adnoddau parod ac adnoddau dynol sydd ar gael i gefnogi’r dysgu.
  • Cymryd rôl allweddol yng nghynllunio targedau’r disgyblion o fewn y Cynllun Gweithredu (Cynllun Addysg Unigol).
  • Dilyn arweiniad ac argymhellion sydd yn cael eu cynnig gan wasanaethau arbenigol yr A.Ll.

 

5.      Cymorthyddion ac Anogwyr Dysgu

Mae angen i bob cymhorthydd:

  • Dilyn arweiniad yr Athro/awes dosbarth er mwyn diwallu anghenion disgyblion.
  • Bod yn ymwybodol o dargedau disgyblion o fewn y dosbarth sydd ag ADY a Chynhwysiad.
  • Bod yn ymwybodol o ddatblygiad holistaidd y disgybl, er enghraifft, drwy fod yn ymwybodol o’r Proffil Un Tudalen a chyfrannu pan yn briodol.
  • Ystyried anghenion disgyblion wrth gynnal gwaith grŵp neu dasgau ffocws.

 

6.      Cyfathrebu â Chartrefi / Partneriaeth Rhieni

Mae gweithio gyda chartrefi a sicrhau cydweithrediad rhieni yn allweddol ar gyfer perthynas lwyddiannus ag unrhyw ddisgybl. Dylai pob ysgol yng Ngwynedd ac Ynys Môn fod yn agored i drafodaeth bob amser ac yn annog rhieni i gysylltu os oes unrhyw beth yn eu pryderu.

Dylai cyfraniad rhieni fod yn rhan angenrheidiol o fonitro ac adolygu cynnydd pob disgybl gyda ADY a Chynhwysiad er mwyn sicrhau darlun cyflawn o’r disgybl. Un ffordd o sicrhau hyn yw drwy gael mewnbwn y rhieni a’r teulu i’r Proffil Un Tudalen, y Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ac o fod yn rhan o’r Adolygiad – beth bynnag yw dwysedd yr anghenion.