Saesneg fel Iaith Ychwanegol

Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?

Mae’r Gwasanaeth yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd:

  • Yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
  • Yn gallu cyfathrebu gyda’r teulu ac weithiau’r gymuned ehangach yn iaith / ieithoedd y teulu - ond angen dysgu Saesneg (a Chymraeg) er mwyn cael mynediad at y cwricwlwm a chyfathrebu gyda chyfoedion, athrawon yr ysgol a phobl eraill sydd yn byw yng Nghymru

 

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

  • Gwneud yn siŵr bod gan ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn ddarpariaeth ar gyfer plant sydd yn dysgu Saesneg (a Chymraeg) yn eu hysgolion
  • Gwneud yn siŵr bod arweiniad a hyfforddiant penodol ar gael i ysgolion gynllunio’n effeithiol ar gyfer ymateb i anghenion disgyblion
  • Cynnig ymyraethau sydd wedi’u teilwra ar gyfer anghenion penodol disgyblion.
  • Arweinyddiaeth ac hyfforddiant penodol i ysgolion i sicrhau fod yr ysgolion yn cynllunio'n effeithiol i ddiwallu anghenion disgyblion gyda SIY
  • Cynnig aelod o’r tîm ddod i’r ysgol i weithio am amser penodol i hyfforddi staff ac i rannu arfer dda er mwyn cefnogi disgybl i gyflawni targedau penodol
  • Cefnogi athrawon i wahaniaethu gwersi ar gyfer disgyblion gyda SIY er mwyn hwyluso’r proses o ddysgu iaith (2 iaith) newydd ar yr un pryd a dysgu’r cwricwlwm
  • Anogaeth a chefnogaeth i ysgolion i ysytyried cynnig cymwysterau mamiaith i ddisgyblion gyda SIY
  • Cefnogi ysgolion i godi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb, diwylliant, iaith ac amrywiaeth
  • Cefnogi ysgolion anwytho disgyblion a’r teuluoedd sydd yn cyrraedd gwlad newydd gydag iaith a diwylliant hollol newydd iddynt

Pwy ydi’r tîm?
Uwch Athrawes Arbenigol SIY

Helen Speddy

Athrawes Arbenigol SIY

Awel Haf Parry 

Uwch Gymorthydd Arbenigol SIY

Ivana Rowlands

Anneka Williams

 

Sut mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth?

Gellir cael mynediad at y Gwasanaeth trwy wneud cais am ffurflen gyfeirio gan GweinyddolADYaCh@gwynedd.llyw.cymru 

 

Beth yw rôl yr ysgol?

Mae disgwyl i bob ysgol gynnig cyfleoedd i gefnogi disgyblion sydd yn dysgu Saesneg (Cymraeg).

Dylai ysgol:

  • Sicrhau fod ganddynt berson dynodedig sydd yn gyfrifol am fonitro lles a chynnydd y disgyblion sydd yn dysgu Saesneg (a Chymraeg) fel iaith ychwanegol trwy'r ysgol.
  • Sefydlu systemau er mwyn targedu a chefnogi unigolion yn ôl eu hangen
  • Datblygu awyrgylch ac ethos dysgu sy’n gyfeillgar a chynhwysol i unigolion sydd yn dysgu Saesneg (a Chymraeg) yn y dosbarth
  • Datblygu awyrgylch sy’n caniatáu amser i ddatblygu sgiliau ieithyddol penodol o fewn diwrnod ysgol
  • Sicrhau bod pawb yn yr ysgol yn gwybod pa iaith/ieithoedd mae disgybl yn siarad ac yn dangos parch tuag at iaith gyntaf y disgybl

 

Pwy arall sy'n gallu helpu?

I rhieni/gofalwyr sydd yn dysgu Saesneg:

www.gllm.ac.uk/learn-teach-english

British Council

I rhieni/gofalwyr helpu eu plant i ddysgu Saesneg:

worldstories.org.uk

www.racingtoenglish.co.uk/

www.mantralingua.com/

www.bbc.co.uk/learningenglish/

www.oxfordowl.co.uk/for-home/find-a-book/library-page/

Safleoedd defnyddiol eraill:

https://ealresources.bell-foundation.org.uk/parents

BBC - BBC Languages

www.onlinenewspapers.com

 

 Beth fedrwch chi wneud gartref?

  • Annog y disgybl i wylio rhaglenni sydd â diddordeb iddynt ar y teledu yn yr iaith targed (Cymraeg / Saesneg) 
  • Annog y disgybl i wrando ar gerddoriaeth ar y radio neu ar-lein (Cymraeg / Saesneg)
  • Ymweld â’r llyfrgell leol er mwyn benthyg llyfrau sydd â diddordeb. Darllen y llyfrau efo’ch gilydd wrth ddefnyddio’r lluniau er mwyn deall ystyr y geiriau
  • Annog eich plentyn i wneud gweithgareddau ar ôl yr ysgol e.e. drama / canu / pêl-droed / gymnasteg / nofio. Byddan nhw’n dysgu’r iaith gan ffrindiau eraill yn y grŵp
  • Annog eich plentyn i wneud yr ymarferion/chwarae gemau / gwrando ar y storïau/canu’r caneuon/gwylio ffilmiau ar y BBC ‘Learn English’ neu ar wefan y British Council (gweler uchod)
  • Parhau siarad a datblygu mamiaith y disgybl yn y cartref. Mae ymchwil yn profi fod parhau i ddatblygu a defnyddio'r iaith gyntaf yn elwa plentyn wrth ddysgu iaith newydd.