Cyrsiau am ddim i breswylwyr Gogledd Cymru
Mae'r isod yn neges gan Tîm Iechyd Cyhoeddus i’r Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr ynglŷn â chwrs am ddim i rieni, darpar rieni, neiniau a theidiau a gofalwyr - 'Deall eich Plentyn'.

Annwyl Riant / Warchodwr,
Cyrsiau ar-lein am ddim i breswylwyr GOGLEDD CYMRU:
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y gall staff a rhieni gael mynediad at gwrs arloesol AR-LEIN am blant bellach, sydd werth £39, yn rhad ac am ddim. Mae’r cwrs ‘Deall Eich Plentyn’ wedi’i roi at ei gilydd gan Solihull Approach, sef dull achrededig sy’n seiliedig ar dystiolaeth a sefydlwyd 20 mlynedd yn ôl gan seicolegwyr, ymwelwyr iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Mae’r cwrs fel arfer yn costio £39 y person. Fodd bynnag, trwy ddefnyddio’r cod mynediad: NWSOL (yn ddilys tan Tachwedd 2022) ar www.ourplace.co.uk, gallwch gofrestru ar eich cyfrif eich hun ac ailymweld â’r cwrs am flynyddoedd i ddod heb dalu ceiniog.
Mae’r cwrs ‘Deall Eich Plentyn’ ar gyfer rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gofalu am blant rhwng 0 a 18 mlwydd oed. Mae’n edrych ar ddatblygiad yr ymennydd, chwarae, mathau o rianta, cysgu, pyliau o dymer ddrwg, cyfathrebu a mwy ac mae’n seiliedig ar gwrs wyneb yn wyneb sydd wedi’i gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac sydd wedi’i gynnig gan Solihull Approach.
Y 4 cwrs yw:
- Deall eich beichiogrwydd, yr esgor, yr enedigaeth a’ch babi
- Deall eich babi
- Deall eich plentyn
- Deall ymennydd eich glasoed
Ewch i www.inourplace.co.uk a mewnbynnwch y cod mynediad NWSOL:
Am ymholiadau technegol, e-bostiwch solihull.approach@heartofengland.nhs.uk neu ffoniwch 0121 296 4448 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am–5pm. Am unrhyw gwestiynau lleol cystyllwch yn Cymraeg neu Saesneg i nwsol@wales.nhs.uk
Cofion gorau, Tîm Iechyd Cyhoeddus BIPBC
Lawrlwytho'r Taflen wybodaeth i rieni a gofalwyr Cwrs ‘Deall Eich Plentyn’ Solihull Approach