Preifatrwydd a Chwcis

Preifatrwydd

Mae’n rhaid i chi gael sicrwydd er mwyn cael yr hyder i roi gwybodaeth breifat i’r Cyngor drwy ddefnyddio ffurflenni ar-lein neu gais arall. Mae’n bwysig i ni, pan fyddwch yn dewis gwneud, bod eich preifatrwydd yn cael ei warchod bob amser, a’n bod ni yn ymddwyn mewn ffordd glir a chyfrifol.

Mae gwarchod eich gwybodaeth bersonol yn hynod bwysig – yr unig amser y byddwn angen yr wybodaeth hon fydd i ddarparu gwasanaethau a chreu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau eraill yn y dyfodol.

Mae unrhyw wybodaeth bersonol rydych yn ei roi i ni yn cael ei gadw mewn cronfeydd data sydd yn berchen i naill ai Cyngor Gwynedd neu gorff mae'r Cyngor yn ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaeth(au) ar-lein ar ei ran.

Os na fydd gofyn drwy gyfraith - ni fyddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i gwmnïau, busnesau neu unigolion.

Pan fyddwch yn defnyddio cardiau debyd i wneud taliadau drwy ein gwefan - treth cyngor ayyb, bydd rhif y cerdyn yn cael ei amgryptio, yn ogystal â nifer fesurau diogelwch eraill. 


Cwcis

Pan fyddwch yn ymweld â'r wefan hon am y tro cyntaf byddwch yn cael neges yn dweud bod yn cwcis yn cael eu defnyddio ar y wefan. Efallai na fydd rhannau o'r wefan yn gweithio'n iawn os ydych yn dewis gwrthod cwcis gan y wefan hon.

Ni chedwir gwybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost yn y cwcis. Maent yn cael eu defnyddio yn rhoi gwybodaeth i ni am ymddygiad defnyddwyr ar ein gwefan - pa rannau sydd o ddiddordeb iddynt a pha wasanaethau sy’n cael eu defnyddio amlaf, ayyb. Gellir eu defnyddio hefyd i gofio manylion mewngofnodi ar gyfer rhai gwasanaethau, e.e. ceisiadau am swyddi ar lein.

Mae'r wybodaeth isod yn egluro pa gwcis yr ydym yn eu defnyddio a pham:

 

Cwci's yr Wefan
Cwci Enw Pwrpas
Ystadegau Siteimprove SiteAnalyze ASP.NET_SessionId Pwrpas cwci yma yw cofnodi’r drefn y byddwch yn edrych ar dudalennau yn ystod eich ymweliad â’r wefan. Gall yr wybodaeth gael ei defnyddio er mwyn ceisio lleihau eich siwrnai chi fel cwsmer o fewn y safle, a’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth berthnasol yn gynt.
Cwci Cyngor Gwynedd dangos-neges-cwcis Pwrpas y cwci hwn yw cofnodi a ydych wedi derbyn cwcis oddi ar y wefan hon ai peidio. Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei ddal yn y cwci hwn.
Cwci is-safle safle Mae'r cwci yma yn cael ei defnyddio i cadw trac o beth yw'r is-safle cyfredol ac i ddewis pa tudalen ddylir cael ei lwytho ar ol clicio ar rhai lincs.

 

Gall Cyngor Gwynedd ddiweddaru’r termau hyn ar unrhyw adeg. Dylech ymweld â’r dudalen hon yn achlysurol er mwyn adolygu’r wybodaeth sydd arni i chi fel defnyddiwr.