Addysg Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Mae’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr yn wasanaeth a ddarperir gan yr awdurdod lleol i gefnogi addysg disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Mae Gwasanaeth Addysg i Deithwyr yn cefnogi dysgwyr Sipsiwn, Roma Teithwyr a’u hysgolion trwy:
- cefnogi addysg disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- ennyn gwell dealltwriaeth o’r diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac o faterion sy’n ymwneud yn benodol â disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a’u teuluoedd.
- cefnogi presenoldeb
- cefnogi datblygiad disgyblion o ran sgiliau llythrennedd a rhifedd
- cefnogi a monitro’r holl ddysgwyr sy’n agored i niwed ar y cyfan, gan gynnwys dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- llais y disgybl - sicrhau bod disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael cyfle i roi eu barn am eu profiadau dysgu
Pwy ydi’r tîm?
Uwch Athrawes Arbenigol |
Helen Speddy
|
Sut i gyfeirio i'r gwasanaeth?
Cysylltwch gyda’r ysgol. Gall yr ysgol neu’r teulu ofyn am gyswllt yn uniongyrchol gan y gwasanaeth trwy ffonio 01286 679007 neu e-bostio GweinyddolADYaCh@gwynedd.llyw.cymru
Adnoddau
'Teithio gyda'n gilydd'
Sicrhau bod diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael ei adlewyrchu yn amgylchedd yr ysgol.
Mae’r adnodd hwn yn darparu deunydd cwricwlwm am ddiwylliant a threftadaeth Sipsiwn a Theithwyr wedi’i anelu at ddysgwyr o oedran ysgol uwchradd neu sydd ar fin trosglwyddo i ysgol uwchradd.
https://hwb.gov.wales/repository/resource/37a37538-82ae-432d-a7c1-3af622ef53b4
Plant y Sipsiwn, y Roma a Theithwyr yn ysgolion Cymru - Pecyn Cymorth a Gweithgareddau i Hyrwyddo Cydraddoldeb a Mynd i’r Afael â Hiliaeth
https://hwb.gov.wales/repository/resource/56ac6421-8148-4876-a8cb-2db07bac0149