Datblygu a chryfhau sgiliau gwrando

 sgiliau gwrando

                     

Syniadau ar sut i ddatblygu a chryfhau sgiliau gwrando

www.pathstoliteracy.org

Er bod myfyrwyr sydd â nam ar eu golwg i gyd yn dibynnu ar y gallu i wrando, efallai y bydd angen help arnynt i ddatblygu sgiliau i wneud hynny’n fwy effeithlon. Bydd plant ifanc gyda Nam ar y Golwg yn elwa o ymarfer gyda gwahaniaethu clywedol, neu ddysgu dweud pa synau sydd yn gysylltiedig â pha weithgareddau neu ddigwyddiadau. Mae dysgu adnabod a dehongli cliwiau clywedol yn yr amgylchedd yn rhan bwysig o deithio’n ddiogel ac yn annibynnol. Mae sgiliau gwrando yn cynnwys gwrando a deall (deall yr hyn a glywsom), lleoleiddio sain (gallu dweud o ble y mae sain yn dod), a gwahaniaethu clywedol (nodi beth yw sain).

Rhai syniadau i ddatblygu/ cryfhau  sgiliau  gwrando

-          Darllen gyda eich plentyn (holi/ cwestiynu)

-          Chwarae gemau gwrando – lleoleiddio synau - agos iawn, agos, pell, pell iawn/ copïo patrymau clapio/ offerynnau cerdd.

-          Chwarae gem ‘rydw i yn clywed gyda fy nghlust bach i……..’

-          Canu / gwrando ar gerddoriaeth

 

gwefannau

Gwefannau sy’n cynnig syniadau ar gyfer datblygu/ cryfhau sgiliau gwrando                                     

Datblygu sgiliau gwrando mewn myfyrwyr sydd yn ddall neu sydd â nam ar eu golwg - www.pathstoliteracy.org

Datblygu sgiliau gwrando a chlywedol i fyfyrwyr sydd yn ddall neu sydd â nam ar eu golwg - www.teachingvisuallyimpaired.com

Help eich plentyn dall i ddatblygu sgiliau grwando effeithio - www.wonderbaby.org 

 

botymau

Appiau defnyddiol ar gyfer datblygu / cryfhau sgiliau gwrando           

  • Canu Selog 2
  • Caneuon Cŵl 1
  • Caneuon Cŵl 2
  • Byd Cyw
  • Antur Cyw
  • Bys a Bawd