Cyflyrau Meddygol

Sut mae disgyblion â chyflyrau meddygol yn cael eu cefnogi? 

Mae cyflyrau meddygol yn cael eu cyfarch o dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Mae gan ysgolion a'r Awdurdod Lleol llwybrau cefnogaeth i ddiwallu’r anghenion hynny

  • Proffil Meddygol Unigol (PMU)
  • Cynllun Meddygol Unigol (CMU)

Ni fydd gan bob plentyn a pherson ifanc sydd â chyflwr meddygol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Y cwestiwn bob amser yw p'un a oes gan y plentyn neu'r person ifanc anhawster dysgu neu anabledd sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY).

Nodir yn adran 2.32 o’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol 2021: Bydd yna achosion lle nad oes gan blentyn neu berson ifanc â chyflwr meddygol anhawster dysgu neu anabledd, neu os oes ganddo, nid yw'r anhawster dysgu neu anabledd yn galw am DDdY. Yn yr achosion hyn, dylid diwallu anghenion y plentyn neu'r person ifanc drwy ddulliau eraill.

 

Bydd pob achos yn cael ei drafod yn unigol i sicrhau bod gofal priodol a phersonol ar waith. Gall blentyn, ei riant neu berson ifanc gychwyn trafodaeth gyda Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol. Gall Wasanaeth Arbenigol Corfforol/Meddygol yr Awdurdod Lleol ddarparu arweiniad i ysgolion a theuluoedd. Dylech sicrhau eich bod yn rhannu unrhyw wybodaeth gofal iechyd perthnasol gyda’r ysgol a/neu’r Awdurdod Lleol.

 

Triongl ymateb graddoledig – Cyflyrau Meddygol (heb ADY sy’n galw am DDdY)

triongl_cyflyrau_meddygol_CY

Mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar Gefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd yn mynd i'r afael â'r trefniadau i'w gwneud gan ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr o dan 18 oed sydd ag anghenion gofal iechyd yn cynnwys rhai sy'n deillio o gyflwr meddygol.

Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd.

 

Beth os oes gen i gyflwr meddygol a hefyd Anghenion Dysgu Ychwanegol?

Mewn rhai achosion, gall cyflyrau meddygol gael effaith sylweddol ar brofiadau plentyn neu berson ifanc ac ar y ffordd y mae'n gweithredu yn yr ysgol neu addysg bellach, fel eu bod yn arwain at anhawster dysgu neu anabledd o fewn ystyr y term anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Pan fydd gan ddisgybl ADY hefyd, bydd Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn cael ei lunio a bydd ei ddarpariaeth yn cael ei chynllunio a'i darparu mewn ffordd gydlynol gyda Chynllun Gofal Iechyd (CIU) y Bwrdd Iechyd Lleol.

 

Clywed Llais y Plentyn / Person Ifanc

Mae’n bwysig iawn bod pawb sy’n gweithio efo’r plentyn neu'r person ifanc yn cymryd rhan yn y cyfarfod i greu y Cynllun Meddygol Unigol (CMU) neu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) fel ein bod yn darganfod be sy’n bwysig i’r disgyblion. Mae yna lawer o ffyrdd y gall plentyn neu berson ifanc gymryd rhan. Wrth wneud hyn byddwn yn creu CMU neu CDU personol iawn i’r plentyn neu'r person ifanc. Byddwn yn gwneud hyn drwy siarad efo’r teulu, a chytuno sut yw’r ffordd orau i flaenoriaethu a darparu’r gefnogaeth.