Preifatrwydd a Chwcis

Preifatrwydd

Cyfrifoldeb

Cyngor Gwynedd, ar y cyd efo Cyngor Sir Ynys Môn, fydd yn gyfrifol am eich gwybodaeth bersonol.

 Pam ein bod angen eich gwybodaeth

Rydym angen  gwybodaeth amdanoch chi, a gwybodaeth am eich plentyn, er mwyn cynnig gwasanaeth i chi.

Bydd hyn golygu casglu manylion personol fel enw a chyfeiriad ond hefyd manylion mwy sensitif am iechyd ac anghenion eich plentyn.

Rydym yn gwneud hyn o dan ddarpariaethau Erthygl 6(1)(c) ac (e) y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Y ddeddf berthnasol ydi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Ar gyfer gwybodaeth sensitif, rydym yn gwneud hyn o dan Erthygl 9(2)(g) ac ar gyfer gwybodaeth iechyd Erthygl 9(2)(h).

Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth

Rydym yn rhannu gwybodaeth efo Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ysgolion, meithrinfeydd, Gyrfa Cymru, Grŵp Llandrillo Menai a partneriaid addysg eraill, a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn ond dim ond pan fod hynny yn angenrheidiol ac yn berthnasol.

 Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw’r wybodaeth hyd nes bydd eich plentyn yn 35 oed.

 Eich hawliau

Mae manylion am eich hawliau ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd Hawliau. Os ydych yn anhapus efo’r ffordd mae’r gwasanaeth wedi delio efo eich manylion yna mi fedrwch gysylltu efo Swyddog Diogelu Data Cyngor Gwynedd SwyddogDiogeluData@gwynedd.llyw.cymru


Cwcis

Pan fyddwch yn ymweld â'r wefan hon am y tro cyntaf byddwch yn cael neges yn dweud bod yn cwcis yn cael eu defnyddio ar y wefan. Efallai na fydd rhannau o'r wefan yn gweithio'n iawn os ydych yn dewis gwrthod cwcis gan y wefan hon.

Ni chedwir gwybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost yn y cwcis. Maent yn cael eu defnyddio yn rhoi gwybodaeth i ni am ymddygiad defnyddwyr ar ein gwefan - pa rannau sydd o ddiddordeb iddynt a pha wasanaethau sy’n cael eu defnyddio amlaf, ayyb. Gellir eu defnyddio hefyd i gofio manylion mewngofnodi ar gyfer rhai gwasanaethau, e.e. ceisiadau am swyddi ar lein.

Mae'r wybodaeth isod yn egluro pa gwcis yr ydym yn eu defnyddio a pham:

 

Cwci's yr Wefan
Cwci Enw Pwrpas
Ystadegau Siteimprove SiteAnalyze ASP.NET_SessionId Pwrpas cwci yma yw cofnodi’r drefn y byddwch yn edrych ar dudalennau yn ystod eich ymweliad â’r wefan. Gall yr wybodaeth gael ei defnyddio er mwyn ceisio lleihau eich siwrnai chi fel cwsmer o fewn y safle, a’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth berthnasol yn gynt.
Cwci Cyngor Gwynedd dangos-neges-cwcis Pwrpas y cwci hwn yw cofnodi a ydych wedi derbyn cwcis oddi ar y wefan hon ai peidio. Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei ddal yn y cwci hwn.
Cwci is-safle safle Mae'r cwci yma yn cael ei defnyddio i cadw trac o beth yw'r is-safle cyfredol ac i ddewis pa tudalen ddylir cael ei lwytho ar ol clicio ar rhai lincs.

 

Gall Cyngor Gwynedd ddiweddaru’r termau hyn ar unrhyw adeg. Dylech ymweld â’r dudalen hon yn achlysurol er mwyn adolygu’r wybodaeth sydd arni i chi fel defnyddiwr.