Cynllun Datblygu Unigol (CDU)

Beth ydi dulliau sydd yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn i greu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU)?

Rydym yn defnyddio ffordd arbennig o gynnal cyfarfod i gasglu gwybodaeth am y disgybl sy’n cael ei alw yn ddulliau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, i gynllunio’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ysgol. Mae’r math yma o gyfarfod yn fwy anffurfiol ac yn rhoi cyfle i bawb gael rhoi eu barn ar beth sy’n gweithio ac ddim yn gweithio i’r disgybl, a beth sydd yn bwysig iddynt.

 

Mae'r fideo isod yn esbonio beth yw Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn:

 

Mae'r Ddeddf ADY newydd wedi disodli'r hen drefn o asesiad statudol a Datganiad. Yn ei lle mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU). Mae pob plentyn neu berson ifanc gydag ADY sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) efo’r hawl i dderbyn yr un cynllun statudol - sef y CDU.

  • Mae Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn gynllun statudol sydd yn cael ei roi yn ei le yn dilyn penderfyniad bod gan blentyn neu berson ifanc o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy'n galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY)
  • Mae’r CDU yn cynnwys disgrifiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) a roddir yn eu lle i gefnogi anghenion dysgu y plentyn neu berson ifanc.
  • Bydd CDU mwyafrif y plant a phobl ifanc sydd ag ADY yn cael eu lunio a’u gynnal gan yr ysgol neu goleg. Mae CDU ar gyfer rhai grwpiau o blant sydd ag ADY yn cael eu lunio a’u gynnal gan yr Awdurdod Lleol.

 

Mae’n bwysig iawn bod pawb sy’n gweithio efo’r plentyn neu'r person ifanc yn cymryd rhan yn y cyfarfod i greu CDU fel ein bod yn darganfod be sy’n bwysig i’r disgyblion. Mae yna lawer o ffyrdd y gall plentyn neu berson ifanc gymryd rhan. Wrth wneud hyn byddwn yn creu CDU personol iawn i’r plentyn neu'r person ifanc. Byddwn yn gwneud hyn drwy siarad efo’r teulu, a chytuno sut yw’r ffordd orau i flaenoriaethu a darparu’r gefnogaeth.

 
Mae’r adolygiadau yma yn rhoi’r plentyn neu berson ifanc yn y canol, gan edrych ar yr hyn sy’n gweithio ac sy ddim yn gweithio, a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Bydd yr holl wybodaeth sy’n cael ei gasglu yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr efo’r Meini Prawf i greu cynllun gweithredu sy’n wirioneddol unigol ac effeithiol ar eu cyfer. Mae’r dull yma o ddeall anghenion disgybl yn berthnasol i bob plentyn/person ifanc nid yn unig y rhai efo ADY. Mae cyfranogiad yn ymwneud â gwrando ar blant a phobl ifanc, a rhoi ystyriaeth lawn i'w safbwyntiau. 

 
Mae pob rhan o’r CDU yn bwysig wrth adolygu cynnydd disgyblion. Er mwyn defnydd dydd i ddydd o’r CDU mae'n sicrhau fod staff yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymyraethau disgyblion gydag ADY. Disgwylir eu bod yn ddogfennau electroneg byw sydd yn cael eu haddasu yn ôl yr angen.