Swyddogion Ansawdd
Mae pedair Swyddog Ansawdd yn gweithio i’r Gwasanaeth ADYaCh yng Ngwynedd a Môn.
Arfon
|
Haf Roberts
|
Dwyfor
|
Lora Glynwen Williams
|
Meirionnydd
|
Clare Trappe Roberts
|
Ynys Môn
|
Non Samuel
|
Mae’r Swyddogion Ansawdd ADYaCh yn gyfrifol am sicrhau fod ysgolion yn ymateb i’r newid yn y Ddeddfwriaeth ADY drwy gefnogi a rheoli’r newid. Cynnig cymorth a chefnogaeth i ysgolion a rhieni er mwyn sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth i ddisgyblion ADYaCh Gwynedd a Môn o fewn cyd-destun y ddeddfwriaeth newydd
Maent yn gyfrifol am gynnig a rhoi:
- Cynhaliaeth ADY a Chynhwysiad - dogfennau, arweiniad
- Arweiniad a chyngor i Gydlynwyr ADY a Chynhwysiad newydd
- Cynnig arweiniad ar adolygiadau Cynllun Dablygu Unigol (CDU) disgyblion CDU Awdurdod dwysaf
- Pwynt cyswllt trosglwyddo disgyblion ADY a Chynhwysiad Blwyddyn 6
- Arweiniad ar gynllunio’n strategol ysgol gyfan
- Monitro ansawdd darpariaethau ADY a Chynhwysiad o fewn yr ysgolion
- Darlun gwerth am arian y ddarpariaeth
- Sicrhau cysondeb yn y modd y mae Cydlynwyr ADY a Chynhwysiad yn gweithredu.