Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)

Mae’r Cydlynydd ADY (CADY) â chyfrifoldeb cyffredinol ar gyfer pob ysgol i:

  • Defnyddio prosesau mapio darpariaeth er mwyn sicrhau fod darpariaeth ADY ysgol gyfan yn cynnig y defnydd gorau o adnoddau.
  • Sefydlu a gweithredu systemau o sgrinio ac adnabod ADY , fel bod modd ymyrryd yn gynnar.
  • Sicrhau fod gofynion addysgu bob disgybl efo ADY yn cael eu cyfarch trwy fonitro gwaith y staff dysgu a’r cymorthyddion yn rheolaidd.
  • Hyrwyddo cynhwysiad o fewn lleoliadau addysgol.
  • Creu perthynas bositif ac agored gyda rhieni disgyblion ADY.
  • Ffynhonnell o arbenigedd ADY drwy ddatblygu sgiliau arbenigol a gwybodaeth.
  • Hyfforddi staff ysgolion gan gynnwys athrawon a chymorthyddion.
  • Cyfrannu i Gynllun Datblygu Ysgol a Hunan Arfarniadau.
  • Adrodd ar ansawdd ADY o fewn yr ysgol i’r Llywodraethwyr a’r Pennaeth/ Uwch Dîm Rheoli.
  • Ymwybyddiaeth glir o Feini Prawf yr A.Ll. a’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi’r ysgol.
  • Cyfrannu i ddatblygiad gweithdrefnau gan gynnwys cynllunio cyllidol strategol a chasglu a dehongli data.
  • Asesiad a’r defnydd o CDU gan ddefnyddio’r dulliau sy’n canolbwyntio ar unigolion.
  • Sicrhau'r defnydd priodol o drefniadau’r A.Ll. wrth geisio osgoi anghydfod.
  • Gwella eu dysgu proffesiynol eu hunain drwy gysylltu efo’r cydlynwyr eraill er mwyn datblygu a rhannu profiadau ac arfer da.
  • Cryfhau trefniadau ar gyfer cyfnodau trosiannol.
  • Yn adnabod anghenion y disgyblion ADY yn yr ysgol yn dda gan gydlynu casglu gwybodaeth ar gyfer ffurfio CDU.
  • Ymgymryd â rôl arweiniol o ran dosbarthiad cymorthyddion ar lefel clwstwr o ysgolion o ganlyniad i drafodaethau Fforymau ADY.

Cysylltwch gyda ysgol eich plentyn i drafod gyda'ch Cydlynydd ADY (CADY).