Cefnogi addysg plant sy'n ffoaduriaid

Cefnogaeth ariannol yn yr ysgol - gwybodaeth ynghylch prydau ysgol am ddim, cludiant ysgol a chymorth ariannol tuag at wisg ysgol a chit ymarfer corff, a chynnyrch misglwyf

Gwynedd – cefnogaeth ariannol yn yr ysgol

Ynys Môn – cefnogaeth ariannol yn yr ysgol

 

Llyfryn Croeso i Wynedd

Llyfryn Croeso i Wynedd – fersiwn Wcraineg 

Llyfryn Croeso i Wynedd – fersiwn Saesneg

Llyfryn Croeso i Wynedd – fersiwn Cymraeg

 

Croeso i Ynys Môn

Croeso i Ynys Môn - fersiwn Saesneg

Croeso i Ynys Môn - fersiwn Cymraeg

Gwefan Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cymorth i bobl sydd yn cyrraedd o Wcráin

Cymorth pellach ar gael gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Gwynedd – Argyfwng Wcráin - Cymorth i bobl sydd yn cyrraedd Gwynedd o Wcráin
E-bost: ffoaduriaid@gwynedd.llyw.cymru

Cyngor Sir Ynys Môn – Apêl ar gyfer Wcráin
E-bost: cymorthwcrain@ynysmon.gov.uk

 

Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) - Mae Gwasanaeth SIY Gwynedd ac Ynys Môn yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd:

  • Yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
  • Yn gallu cyfathrebu gyda’r teulu ac weithiau’r gymuned ehangach yn iaith / ieithoedd y teulu - ond angen dysgu Saesneg (a Chymraeg) er mwyn cael mynediad at y cwricwlwm a chyfathrebu gyda chyfoedion, athrawon yr ysgol a phobl eraill sydd yn byw yng Nghymru.

 

Gwasanaeth Seicoleg Addysgol - Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Gwynedd ac Ynys Môn yn gweithio gyda:

  • Plant gydag anghenion dysgu ychwanegol o unrhyw fath (anawsterau dysgu penodol, anawsterau emosiynol, plant/pobl ifanc ar y sbectrwm awtistiaeth a.y.y.b.)
  • Mae gan bob ysgol Seicolegydd Addysgol Cyswllt,
  • Mae’r Seicolegwyr Addysgol yn gweithio yn agos gyda staff o fewn Ysgolion, yn enwedig y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY).
  • Os ydych yn riant neu ofalwr sydd yn bryderus am eich plentyn rydym yn awgrymu i chi drafod gyda’r CADY yn yr Ysgol yn y lle cyntaf.  

 

Adnoddau Llesiant i ysgolion

Gweithgaredd 3 peth da - Mae hwn yn weithgaredd hawdd a braf i wneud ar ben eich hun neu fel teulu. Mae ymchwil yn awgrymu bod y gweithgaredd syml hwn yn gallu codi lefel hapusrwydd a  chefnogi lles emosiynol. Cafodd y gweithgaredd ei datblygu gan Martin Seligman sydd yn enwog am ddechrau a datblygu ymchwil yn y maes seicoleg gadarnhaol (positive psychology). 

Dyddiadur Diolchgarwch

Fy Lle Hapus

Anadlu o'r bol

Fideo YouTube: Anadlu o'r bol 

 

Cefnogi plant drwy brofedigaeth - Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Gwynedd a Môn - Mae’r ddogfen wedi ei greu ar gyfer athrawon, oedolion a gofalwyr sy’n cefnogi plentyn neu blant sydd wedi profi colled neu brofedigaeth.

Gweithdai Lles / Pecyn Lles (Uwchradd) Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn cynnwys:

  • Pecyn Adnoddau Lles - Pecyn Adnoddau a Fideo
  • Straen a Gorbryder - Llyfr Gwaith a Fideo
  • Meddylgarwch - Llyfr Gwaith a Fideo

Y Pum Cam Hanfodol Dull Cymell Emosiynau (Emotion Coaching)- Mae’r Dull Cymell Emosiynau (Emotion Coaching) yn strategaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi ei seilio ar ymchwil y seicolegydd John Gottman. Edrychodd ei ymchwil ar wahanol fathau o ymatebion gan oedolion i gyfathrebu emosiynol plant.

 

Cefnogi yn dilyn trawma -

 

Adnoddau pellach i ysgolion

Noddfa Ceredigion – Adnoddau wedi’i lunio gan Gyngor Sir Ceredigion

Guidance for Admitting and Welcoming Ukrainian Citizens into Flintshire Schools - Adnoddau wedi’i lunio gan Sir y Fflint

Say it in … Wcreineg - Adnodd gan Y Mentrau Iaith sydd yn dangos rhai o eiriau ‘hanfodol’ yn yr iaith Gymraeg wedi eu cyfieithu i’r iaith Wcreineg

Pecyn Widget i Gefnogi Ffoaduriaid / The Widget Refugee Support Pack – Adnodd i gefnogi cyfathrebu. Mae gan y pecyn cardiau cyfathrebu penodol a gefnogir gan symbolau ac adnoddau amrywiol gall ei ddefnyddio gan unrhyw un i helpu ffoaduriaid i gyfathrebu gwybodaeth hanfodol o ran iechyd, cartref ac addysg.

Twinkl , gwefan llawn adnoddau i athrawon a staff cefnogi, â sydd a o adnoddau SIY a dwy iaith, gan gynnwys llawer mewn Wcreineg, er enghraifft:

The Bell Foundation - Mae gwefan The Bell Foundation yn cynnwys cannoedd o adnoddau am ddim i’w lawrlwytho, gan gynnwys yr ugain tudalen Syniadau Gwych. Mae’r Syniadau Gwych hyn yn rhoi’r rhesymeg y tu ôl i athrawon i ddefnyddio’r dulliau a’r strategaethau profedig amrywiol a argymhellir i’w defnyddio gyda phawb yn y dosbarth, ond yn benodol, gyda dysgwyr sy’n defnyddio Saesneg fel Iaith Ychwanegol. Mae pob Syniad Gwych yn cynnwys dolenni i adnoddau perthnasol ac mae llawer o Syniadau Gwych hefyd yn cynnwys fideos canllaw byr. Darganfyddwch yr 20 Syniadau Gwych

Gwybodaeth am drefniadaeth y broses addysgol ar gyfer plant Wcrain - Mae'r ddogfen hon gan Gomisiynydd Hawliau Dynol Wcráin, yn nodi adnoddau wê i helpu plant Wcrainaidd i astudio tra eu bod nhw i ffwrdd o’u cartrefi. Wedi’i rannu gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Cefnogi plant Afghanistan mewn ysgolion -  Supporting Afghan children in schools - Adnodd gan Refugee Education UK. (Tachwedd 2021). Gall nifer o'r strategaethau fod yn ddefnyddiol i gefnogi ffoaduriaid o wledydd eraill hefyd. 

Mae gwefan Noddfa yn cynnig gwybodaeth am dai, cyfraith mewnfudo, addysg, ac ati, ar gyfer pobl sy’n cyrraedd Cymru o wlad arall/wledydd eraill. Gellir defnyddio’r wefan hon mewn llawer o ieithoedd gwahanol, gan gynnwys Wcraineg,  trwy ddewis y blwch ‘Dewis Iaith’.

Gwybodaeth Iechyd wedi’i gyfieithu ‘Doctors of the World’ - cyfres o adnoddau sy'n mynd i'r afael â chwestiynau cyffredin gan gynnwys sut i gofrestru gyda meddyg teulu, COVID 19 a'r brechlyn yn ogystal â chadw pobl ifanc yn iach.

 

Gweminarau defnyddiol

Gweminar: ‘Welcoming Ukrainian Arrivals’ - Gweminar gan The Bell Foundation ar groesawu bobl sydd yn cyrraedd Gwynedd o Wcráin. Croesawu a chefnogi disgyblion sydd newydd gyrraedd sydd wedi cael eu dadleoli. Bydd Lina Maksymuk yn darparu gwybodaeth allweddol am y cyd-destun Wcreineg sy'n hanfodol er mwyn i ysgolion baratoi ar gyfer newydd-ddyfodiaid. (Mai 2022)

Gweminar: How to Talk with Children and Young People About War | Understanding and Supporting our Refugee Children - Gan Dr Tina Rae, Cadeirydd yr Athro Barry Carpenter, wedi’i drefnu by Evidence for Learning (EfL) | LearningShared (4 Ebrill 2022)