Trefn Mynediad

Y CEFNDIR

Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad:

Gwynedd ac Ynys Môn

Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn cyd-weithio ar un Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADYaCh) gyffredin ar gyfer y ddau awdurdod. Cafodd hyn ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Ynys Môn ym mis Medi 2016.

Daeth yr angen am Strategaeth i’r amlwg wrth edrych ar brofiadau plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol yn y ddwy sir. Daeth yn amlwg fod angen gwella nifer o bethau megis:

  • Sicrhau mwy o gysondeb (tegwch)
  • Y system bresennol rhy gymhleth
  • Monitro safon y gwasanaeth
  • Perthynas efo gwasanaethau eraill
  • Cyfathrebu / rhannu gwybodaeth

 
Nod y Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad yw:

‘Sicrhau bod plant a phobol ifanc (rhwng 0 a 25 oed) sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn manteisio ar gyfleoedd ac yn ennill profiadau sydd wedi eu cynllunio’n effeithiol ar eu cyfer, er mwyn eu galluogi i wneud cynnydd yn unol â’u gallu.’

 

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Bydd deddfwriaeth newydd yn trawsnewid y system ADY yng Nghymru, trwy wella'r gwella’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc. Mae’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) yn cael ei disodli gan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae hyn yn digwydd dros 3 blynedd ysgol – rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2024.  

Mwy o fanylion am y Ddeddf ADY newydd

 

Trefn mynediad i’r Gwasanaeth ADYaCh

Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i greu awyrgylch sy’n edrych ar ôl a chefnogi, lle y mae’n bosib i bob disgybl ddatblygu’n hapus a hyderus.

 

Gweithredu Ysgol Gyfan

Mae darparu ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn flaenoriaeth i gymuned gyfan pob ysgol yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Nid cyfrifoldeb y cydlynydd, cymorthyddion a’r uwch dîm rheoli’n unig yw diwallu anghenion dysgu ychwanegol disgyblion, mae cymuned lawn yr ysgol yn cynllunio a darparu’n addas ar eu cyfer.

Cyn chwilio am gymorth ychwanegol dylai pob ysgol fod wedi gweithredu cynlluniau penodol sydd wedi ei amlygu’n glir o fewn y Meini Prawf. Dim ond wedi dilyn y camau yma y gall ysgol dderbyn cymorth ychwanegol o’r tu allan.

Tîm Integredig

Mae’r Gwasanaeth newydd yn cynnwys un Tîm Integredig sgilgar sydd yn cynnwys timau penodol o arbenigeddau yn ôl cyflwr/anhwylder a lleoliad. Mae’r timau yma yn cynghori a chefnogi’r ysgolion ac yn sicrhau cysondeb wrth ddarparu ymyraethau a chefnogaeth briodol i’r unigolion.

 

1.       Beth yw Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad?

Wrth gyfeirio at Anghenion Dysgu Ychwanegol rydym yn ystyried disgyblion sydd ag anghenion mewn rhan neu rannau o’u datblygiad, sydd yn creu rhwystr iddynt gael mynediad i’r cwricwlwm, hyd yn oed o wahaniaethu (addasu) sy’n arferol a disgwyliedig mewn lleoliad addysgol. Mae i "anghenion dysgu ychwanegol" neu "ADY" yr ystyr a roddir gan adran 2 o'r Ddeddf ADY.

Mae Gwasanaethau yn cyfeirio at anghenion mewn meysydd gwahanol ac yn rhoi disgrifiad bras ymhob un o’r meysydd yma.

 

 

2.       Beth ddylwn ei wneud os ydw i’n meddwl bod gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol?

Os ydych yn meddwl bod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol dylech gysylltu gydag ysgol eich plentyn a naill ai siarad gyda’r athro/ athrawes dosbarth, y Pennaeth neu’r Cydlynydd ADY. 

Gallwch holi sut y mae’r ysgol yn cefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol a bydd y wybodaeth yma hefyd ar gael ym Mholisi ADY yr ysgol.

Gall rieni plant cyn-ysgol siarad â’r arweinydd /rheolwr y lleoliad cyn-ysgol neu’ch Ymwelydd Iechyd.  Gweler Trefn Mynediad Blynyddoedd Cynnar am ragor o wybodaeth.

Gallwch hefyd gysylltu â swyddogion anghenion dysgu ychwanegol yr Awdurdod a fydd yn gallu darparu gwybodaeth i rieni plant oed ysgol a phlant cyn-ysgol. Gellir cysylltu â nhw ar 01286 679007.

 

Y Broses Gyfeirio (Ymholiad ADY):

Cysylltwch gyda ysgol eich plentyn i drafod ymhellach ac i gychwyn y broses Ymholiad ADY.

Os nad yw eich plentyn yn ddisgybl mewn ysgol a gynhelir ac 'rydych yn meddwl bod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol gallwch gychwyn y broses Ymholiad ADY drwy lawr lwytho a chwblhau'r ffurflen isod. 

Ffurflen gyfeirio ar gyfer ystyried Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol a / neu Ddarpariaeth Gofal Iechyd Ychwanegol

 

Llwybr Cefnogaeth

Llwybr_Cefnogaeth

 

3.     Rhybudd Cynnar –– plant cyn oed ysgol

Mae cynnig cefnogaeth yn gynnar ac wedi’i raddio yn bwysig iawn i geisio lleihau’r gefnogaeth i ddisgyblion yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Mae gan y Gwasanaethau ADYaCh berthynas agos gyda gweithwyr cymunedol ac addysg yn y sector blynyddoedd cynnar.

Mae system gyfeirio yn bodoli ble mae gweithwyr cymunedol iechyd (e.e. Pediatrydd, Ymwelydd Iechyd, Therapydd Iaith a Lleferydd) a darparwyr addysg cyn oed ysgol (e.e. Cylchoedd Meithrin) yn gallu cyfeirio plant ifanc i Fforwm Blynyddoedd Cynnar.

Anogir rhieni gynnal sgwrs gyda’r ymarferydd Blynyddoedd Cynnar neu unrhyw wasanaeth sy’n ymwneud â’r plentyn i drafod materion sy’n peri pryder a chytuno ar gamau gweithredu. Gall rhieni gyfeirio plentyn yn uniongyrchol i sylw’r Gwasanaeth ADY.

Trefn Mynediad Blynyddoedd Cynnar

Beth yw’r Canolfannau Asesu Blynyddoedd Cynnar (ABC)?

 

4.       Defnyddio dulliau sydd yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn i greu Cynlluniau Datblygu Unigol

Mae’n holl bwysig ein bod yn darganfod beth sy’n bwysig i’r disgyblion wrth geisio cynllunio eu profiad addysgol. Byddwn yn gwneud hyn drwy siarad efo’r plentyn/ person ifanc a’u teuluoedd, a chytuno sut yw’r ffordd orau i flaenoriaethu a darparu’r gefnogaeth.

Drwy gynnal Adolygiadau trwy ddefnyddio dulliau sydd yn Canolbwyntio ar yr Unigol 'rydym yn rhoi’r plentyn neu berson ifanc yn y canol, gan edrych ar yr hyn sy’n gweithio ac nad yw’n gweithio, a’r hyn sy’n bwysig iddynt. Bydd yr holl wybodaeth a gaiff ei gasglu yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr efo’r Meini Prawf i greu cynllun gweithredu, rhan o'r Chynllun Datblygu Unigol (CDU) sy’n hollol unigol ac effeithiol ar eu cyfer. Mae’r dull yma o ddeall anghenion disgybl yn ddefnyddiol i bob plentyn/person ifanc, nid yn unig y rhai efo ADY.

 

5.       Beth os yw anghenion fy mhlentyn i yn fwy na’r hyn mae’r ysgol yn gallu gynnig?

Fforymau ADYaCh Ardal, a Phanel Traws Sirol (Cymedroli)

Mae gwaith y Timau Arbenigol, yn cael ei drefnu trwy Fforymau Ardal ADY a Chynhwysiad fel man cychwyn. Mae posib i unrhyw ysgol wneud cais am fewnbwn i’r Fforwm yn unol â’r Meini Prawf drwy ddefnyddio Cynllun Datblygu Unigol (CDU) y plentyn. Mae’r Fforymau Ardal ADYaCh yn cyfarfod bob hanner tymor.

 

Gyda phlant sydd ag anghenion dwys a chymhleth, mae trafodaeth ynglŷn ag anghenion yn cael ei weithredu trwy Banel Cymedroli Sirol. Mae’r fforymau a’r Panel yn gweithredu yn unol â Meini Prawf y Gwasanaeth o ran cael mynediad at a gorffen derbyn gwasanaeth.

Mae’n rhan allweddol o rôl y Fforymau a’r Paneli i dderbyn gwybodaeth ynglŷn â sut mae ysgolion yn defnyddio’r gwasanaethau arbenigol y maent yn ei dderbyn, ac os ydynt yn defnyddio’r argymhellion ar lawr y dosbarth.

 

6.     Ysgolion Arbennig


Cydlynu y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Beth mae disgwyl i Ysgol Gyfan ei wneud?

Mae Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad yn gyfrifoldeb ymhob agwedd a swyddogaeth o fewn yr ysgol.

 

1.        Llywodraethwr Cyswllt ADY a Chynhwysiad

Mae rôl y Llywodraethwr Cyswllt ADY a Chynhwysiad yn werthfawr iawn i roi cefnogaeth i’r Pennaeth a’r staff mewn datblygu awyrgylch ddysgu sydd yn hybu cynnydd plant gyda ADY a Chynhwysiad.

 

2.        Pennaeth (Person Cyswllt ADYaCh ym mhob ysgol)

Mae arweinyddiaeth Pennaeth yr ysgol (neu aelod o’r Uwch Dîm Rheoli) yn y maes ADY a Chynhwysiad yn hanfodol i readru meddylfryd, perchnogaeth a chyfathrebu ynglŷn â ADY a Chynhwysiad i weddill staff yr ysgol. 

 

3.        Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)

Mae’r Cydlynydd  Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn rôl allweddol o fewn yr ysgol, gyda mewnbwn strategol. Maent yn atebol i Gyrff Llywodraethol a Phenaethiaid yr ysgol, ac yn derbyn arweiniad pellach gan y Gwasanaeth Ansawdd ADY a Chynhwysiad. Mae’r unigolyn yma â chyfrifoldeb cyffredinol ar gyfer yr ysgol.

 

4.        Athrawon Dosbarth/Pwnc

Mae pob athro/awes yn cydnabod fod y cyfrifoldeb am ymateb i ADY a Chynhwysiad yn gyfrifoldeb iddynt hwy. Maent hefyd yn allweddol o ran adnabod ADY a Chynhwysiad o’r newydd.

 

5.        Cymorthyddion ac Anogwyr Dysgu

Mae gwaith cymorthyddion yn cyfoethogi’r ddarpariaeth sydd ar gael ar draws yr ysgol. Mae gan bob cymhorthydd ac anogwr dysgu, ymhob rôl o fewn ysgol, gyfrifoldeb i ddiwallu ADY a Chynhwysiad disgyblion.

 

6.        Cyfathrebu â Chartrefi / Partneriaeth Rhieni

Mae gweithio gyda chartrefi a sicrhau cydweithrediad rhieni yn allweddol ar gyfer perthynas lwyddiannus ag unrhyw ddisgybl. Dylai pob ysgol yng Ngwynedd ac Ynys Môn fod yn agored i drafodaeth bob amser ac yn annog rhieni i gysylltu os oes unrhyw beth yn eu pryderu.

Dylai cyfraniad rhieni fod yn rhan angenrheidiol o fonitro ac adolygu cynnydd pob disgybl gyda ADY a Chynhwysiad er mwyn sicrhau darlun cyflawn o’r disgybl. Un ffordd o sicrhau hyn yw drwy gael mewnbwn y rhieni a’r teulu i’r Proffil Un Tudalen, y Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ac o fod yn rhan o’r Adolygiad – beth bynnag yw dwysedd yr anghenion.

 

7.        Beth mae disgwyl i Swyddogion Ansawdd ei wneud?


8.        Beth mae disgwyl i’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol ei wneud?