Meini Prawf

Mae cael Meini Prawf clir ar gyfer Mynediad a Gadael gwasanaethau ADY a Chynhwysiad yn ffordd o geisio sicrhau cysondeb ar draws ysgolion o ran gofynion a disgwyliadau. Mae Meini Prawf penodol yn bodoli o fewn pob gwasanaeth. Pan fo disgybl yn cael anhawster mewn mwy nag un maes, rhaid cyfeirio at y Meini Prawf yn gyfer y meysydd hynny, ond gyda phenderfyniad ynglŷn â chydnabyddiaeth y plentyn/person ifanc o'r hyn sy'n brif anhawster ar unrhyw adeg.


Mae’r Meini Prawf yn cael eu defnyddio er mwyn:

  • Ystyried a yw disgybl angen ei gynnwys ar restr ADY a Chynhwysiad yr Ysgol ar Weithredu Ysgol. Mae Gweithredu Ysgol yn golygu fod ysgol yn cynllunio ac yn diwallu ADY a Chynhwysiad y plentyn/person ifanc. 

  • Ystyried a yw disgybl angen ei symud i Weithredu Ysgol a Mwy. Mae Gweithredu Ysgol a Mwy yn golygu fod Ysgol yn derbyn mewnbwn ymgynghori neu uniongyrchol gan Wasanaethau ADY a Chynhwysiad i gynllunio a diwallu ADY a Chynhwysiad y plentyn/person ifanc yn ychwanegol i’w darpariaeth ddatganoledig ADY a Chynhwysiad.

  • Ystyried yn y Fforymau Ardal ADY a Chynhwysiad (parhau ar Weithredu Ysgol a Mwy) a yw disgybl neu grŵp o ddisgyblion yn dod o fewn y Meini Prawf ar gyfer mewnbwn penodol gan Wasanaethau ADY a Chynhwysiad.

  • Ystyried yn y Panel Cymedroli a yw disgybl yn dod o fewn y Meini Prawf ar gyfer darpariaeth o lefel uchel trwy Ddatganiad neu Gynllun Datblygu Unigol gyda Darpariaeth unigol.