Diogelu Plant

Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?

Mae’r gwasanaeth yma’n cefnogi gwaith ysgolion i sicrhau fod pob disgybl yn ddiogel oddi mewn i ysgolion Gwynedd.

NODER: Mae’r Gwasanaeth Diogelu Plant ysgolion Môn yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Ynys Môn - 01248 750057.

 

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

  • Cyngor yng nghyswllt pob agwedd o ddiogelu plant mewn addysg.
  • Hyfforddiant safonol ar gael i bob aelod o staff ysgolion Gwynedd.

 

Pwy ydi’r tîm?
Swyddog Arweiniol Dynodedig ar gyfer Diogelu mewn Addysg

Bethan Helen Jones


Sut mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth?

Mae modd i’r ysgolion gysylltu â’r Swyddog Arweiniol Dynodedig ar gyfer Diogelu mewn Addysg drwy ffôn neu e-bost unrhyw amser.

07977504344

bethanhelenjones@gwynedd.llyw.cymru

Beth yw rôl yr ysgol?

Rôl Ysgolion Gwynedd o fewn y drefn Diogelu Plant yw sicrhau amgylchfyd ac ethos diogel lle y gall plant a phobl ifanc ddysgu gan roddi sylw digonol i’w lles a’u diogelwch.

Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i gydweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ac adrannau eraill y cyngor i hyrwyddo diogelwch trwy godi ymwybyddiaeth, gwella dealltwriaeth a chryfhau gwytnwch plant a phobl ifanc thrwy’r cwricwlwm yn ogystal â thrwy waith ataliol ac ymyrraeth gynnar; trwy gyfeirio pryderon, cyfrannu gwybodaeth a thuag at asesiadau o angen.

Dylai’r ysgol fod yn berchen ar weithdrefnau effeithiol wrth:

  • rwystro pobl amhriodol rhag gweithio gyda phlant a phobl ifanc
  • hyrwyddo arferion ardderchog a herio arferion annigonol ac anniogel
  • adnabod ac ymateb yn gadarn i unrhyw achos o bryder yng nghyswllt diogelwch a lles plentyn gan weithredu ar weithdrefnau sy’n sicrhau diogelwch
  • monitro ac arfarnu’n rheolaidd i wella ansawdd strwythurau a gweithdrefnau diogelu’r gwasanaeth

Mae disgwyl i'r ysgolion sicrhau:

  • bod polisi diogelu plant cyfredol a chynhwysfawr mewn lle sy’n cyd-fynd a’r arweiniad a gynigir
  • bod y polisïau a’r gweithdrefnau’n ystyried gweithgareddau all ddigwydd y tu mewn a thu allan i oriau i furiau’r ysgol (defnydd o gyfleusterau hamdden, ymweliadau addysgol, defnydd o gyfleusterau’r ysgol i ddibenion cymunedol ayyb)
  • bod polisïau yn cael eu hadolygu a’u mabwysiadu yn amserol gan gorff llywodraethol yr Ysgol
  • bod un aelod o’r uwch dîm rheoli yn berson dynodedig Diogelu Plant ac yn cymryd cyfrifoldeb o fewn y sefydliad am faterion Diogelu. Dylent roddi cyngor, anwytho pob aelod o staff newydd/llanw, cynnig arweiniad penodol a chyffredinol, sicrhau trefniadau hyfforddi a diweddaru, a bod yn ddolen gyswllt gyda’r gwasanaeth addysg/gwasanaethau cymdeithasol/asiantaethau eraill mewn materion diogelu;
  • bod y Person Dynodedig Diogelu yn berchen ar yr awdurdod priodol i weithredu, wedi’i hyfforddi i’r lefel priodol a gyda phrofiad addas;
  • bod ‘eilydd/dirprwy’ diogelwch yn wybyddus i bawb yn absenoldeb y Person Dynodedig;
  • bod Llywodraethwr Dynodedig Diogelu Plant hefyd wedi’i hyfforddi i’r lefel priodol, eu bod ar gael i gynorthwyo’r Person Dynodedig pan yn briodol, ac yn cyfrannu at a chyflwyno’r Adroddiad Blynyddol i Lywodraethwyr i sylw’r Corff Llywodraethol yn flynyddol (Atodiad 3);
  • bod pob ysgol ac uned yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol Diogelu Plant i sylw’r gwasanaeth Addysg pob blwyddyn, erbyn diwedd tymor yr Haf
  • bod copi o bob cyfeiriad a wneir i’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Bethan Helen Jones, Swyddog Arweiniol Dynodedig ar gyfer Diogelu mewn Addysg.
  • eu bod yn cwblhau ffurflen ‘Camau Nesaf’ yn dilyn gwneud cyfeiriad a derbyn adborth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae sylw dyladwy yn cael ei roi i’r categorïau o gamdriniaeth fel y’u hamlygir yng Ngweithdrefnau Diogelu Plant Cymru 2020:

  • Cam driniaeth corfforol
  • Cam driniaeth emosiynol/seicolegol
  • Cam driniaeth rhywiol
  • Esgeulustod
  • Cam driniaeth ariannol

Mae gan holl weithlu Gwasanaeth Addysg Gwynedd ac Ynys Môn gyfrifoldeb:

  • i fod yn ymwybodol o Weithdrefnau Diogelu Plant Cymru 2020
  • i ymddwyn yn broffesiynol a chyfreithiol dros les a diogelwch plant a phobl ifanc
  • “Chwythu’r Chwiban” os ydynt yn ymwybodol o unrhyw achos o gamdriniaeth
  • i fod yn effro i arwyddion o gamdriniaeth ac i ymateb yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru 2020
  • i fod yn effro i arwyddion o gamdriniaeth gan oedolion sy’n gweithio gyda neu yn goruchwylio plant a phobl ifanc, ac ymateb yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru 2020
  • i fod yn effro i arwyddion o fwlio (gweler canllawiau cenedlaethol a lleol)
  • gwybod sut i ymateb pan fo plentyn yn datgelu gwybodaeth a pha gamau priodol i’w cymryd
  • gwybod at bwy y dylid cyfeirio unrhyw amheuon neu ddatgeliad gan blentyn neu berson ifanc, y tu mewn a thu allan i oriau’r ysgol;
  • i gyflwyno datganiad/cofnod ysgrifenedig o’r hyn a welwyd neu a glywodd gan blentyn neu berson ifanc

 

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru mae’n ofynnol i bob ysgol adnabod athro a llywodraethwr dynodedig sydd â chyfrifoldeb dros faes Diogelu Plant (gweler Adran 'Adnoddau' isod i lawrlwytho Cadw dysgwyr yn ddiogel: 283/2022).

Dylai ysgol:

  • Sefydlu systemau er mwyn targedu unigolion yn ôl eu hangen
  • Ymateb yn ar lefelau gwahanol i anghenion disgyblion drwy gynnal grwpiau targed
  • Defnyddio offeryn sgrinio er mwyn adnabod meysydd mae unigion angen cynhaliaeth ychwanegol
  • Ymateb yn raddoledig i anghenion disgyblion drwy gynnal grwpiau targed
  • Datblygu awyrgylch dysgu sy’n gyfeillgar a chynhwysol i unigolion ag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio
  • Datblygu awyrgylch sy’n caniatáu amser i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio addas o fewn diwrnod ysgol

Adnoddau 

    • Enw: Cadw dysgwyr yn ddiogel 2022.pdf
    • Iaith: Cymraeg
    • Disgrifiad:
    • Fersiwn Saesneg: Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
    • Enw: Keeping learners safe 2022.pdf
    • Iaith: English
    • Disgrifiad:
    • Fersiwn Cymraeg: Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.