Addysg Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Mae’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr yn wasanaeth a ddarperir gan yr awdurdod lleol i gefnogi addysg disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Mae Gwasanaeth Addysg i Deithwyr yn cefnogi dysgwyr Sipsiwn, Roma Teithwyr a’u hysgolion trwy:

  • cefnogi addysg disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
  • ennyn gwell dealltwriaeth o’r diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac o faterion sy’n ymwneud yn benodol â disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a’u teuluoedd.
  • cefnogi presenoldeb
  • cefnogi datblygiad disgyblion o ran sgiliau llythrennedd a rhifedd
  • cefnogi a monitro’r holl ddysgwyr sy’n agored i niwed ar y cyfan, gan gynnwys dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • llais y disgybl - sicrhau bod disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael cyfle i roi eu barn am eu profiadau dysgu

Pwy ydi’r tîm?
Uwch Athrawes Arbenigol

Helen Speddy

 

Sut i gyfeirio i'r gwasanaeth?

Cysylltwch gyda’r ysgol. Gall yr ysgol neu’r teulu ofyn am gyswllt yn uniongyrchol gan y gwasanaeth trwy ffonio 01286 679007 neu e-bostio GweinyddolADYaCh@gwynedd.llyw.cymru 

 

Adnoddau

'Teithio gyda'n gilydd'

Sicrhau bod diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael ei adlewyrchu yn amgylchedd yr ysgol.

Mae’r adnodd hwn yn darparu deunydd cwricwlwm am ddiwylliant a threftadaeth Sipsiwn a Theithwyr wedi’i anelu at ddysgwyr o oedran ysgol uwchradd neu sydd ar fin trosglwyddo i ysgol uwchradd.

https://hwb.gov.wales/repository/resource/37a37538-82ae-432d-a7c1-3af622ef53b4

 

Plant y Sipsiwn, y Roma a Theithwyr yn ysgolion Cymru - Pecyn Cymorth a Gweithgareddau i Hyrwyddo Cydraddoldeb a Mynd i’r Afael â Hiliaeth

https://hwb.gov.wales/repository/resource/56ac6421-8148-4876-a8cb-2db07bac0149