Cwnsela

Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion Gwynedd a Môn

DIWEDDARIAD AR Y GWASANAETH SYDD AR GAEL; MEDI 2022 YMLAEN

O Medi 2022 bydd y Gwasanaeth Cwnsela ar gael yn ysgolion uwchradd a chynradd Gwynedd ac Ynys Mon; bydd darpariaeth rhithiol ar gael hefyd i rhai fyddai yn dymuno.

Medrwch  gyfeirio dysgwyr atom drwy y ffurflen gyfeirio, ar gael yn yr Adran 'Adnoddau' isod. Medr dysgwyr hunangyfeirio hefyd.

Am unrhyw ymholiadau plîs cysylltwch: drwy e-bost DoraWendiJones@gwynedd.llyw.cymru neu ar 07815 597244.

 

Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?

Gwasanaeth sydd ar gael i ddisgyblion ysgolion ysgolion uwchradd a chynradd Gwynedd a Môn

 

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

Gwasanaeth Cwnsela cyfrinachol a phroffesiynol sydd ar gael i bobl ifanc 10-18 oed yn ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn. Darperir y gwasanaeth gan gwnselwyr cymwys a phrofiadol ym mhob ysgol yn yr ardal ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod dioddef yn emosiynol dros amser. Er enghraifft, fe all plant a phobl ifanc wneud defnydd o’r gwasanaeth os ydynt yn:

  • Teimlo yn isel
  • Yn dioddef o bryder
  • Efo hunan werth isel/diffyg hyder
  • Hunan-anafu
  • Yn dioddef yn emosiynol oherwydd rhieni yn ysgaru, profedigaeth, straen gwaith ysgol/arholiadau, problemau efo ffrindiau/cariadon, rhywioldeb, bwlio, problemau teuluol.
  • Angen cyfeiriad ymlaen i wasanaethau arbenigol iechyd meddwl

Mae Cwnsela yn cynnig cyfle i:

  • Drafod materion yn gyfrinachol efo rhywun annibynnol.
  • Lleihau pryder.
  • Gael cymorth i ddeall a delio efo problemau emosiynol.
  • Ddod i adnabod eich hun yn well a datblygu hunan-ymwybyddiaeth.

Mae materion a drafodir efo cwnselydd yn gyfrinachol; ni fydd y cwnselydd yn datgelu unrhyw wybodaeth heb ganiatâd y cleient (person ifanc). Fel arfer, os ydy person ifanc dros 14 oed a/neu yn gymwys y gydsynio i gwnsela, nid oes rhaid cael caniatâd rhiant i weld cwnselydd. Os bydd y cwnselydd o’r farn fod cleient mewn unrhyw fath o berygl yna bydd yn angenrheidiol datgelu gwybodaeth i sicrhau diogelwch.
 

Pwy ydi’r tîm?
Uwch Gwnselydd

Wendi Jones

Cwnselwyr

Deneise Jones

Rhian Haf Connell

Mared Llwyd-Roberts

Nia Wyn Williams

Karen Wyn Jones

Tudur Williams

Glesni Prytherch

Mirain Glyn

 

Sut mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth?

Pwy all wneud Cyfeiriad?

Gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio efo’r person ifanc, rhieni neu gall person ifanc hunan-gyfeirio.

Sut mae gwneud Cyfeiriad?

Bydd angen cwblhau ffurflen gyfeirio sydd ar gael yn yr ysgol neu gweler Adran 'Adnoddau' isod). Mae angen sicrhau fod plant a phobl ifanc sydd yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth yn:

  • Ymwybodol o beth ydy cwnsela ac yn cydsynio i’r cyfeiriad.
  • Rhwng 10 a 18 mlwydd oed ac yn mynychu ysgol yng Ngwynedd/Môn.
  • Yn hapus i fynychu sesiynau rheolaidd yn wirfoddol am gyfnod byr, 6 sesiwn wythnosol fel arfer.


Camau nesaf

Unwaith bydd cyfeiriad wedi ei dderbyn gan y Gwasanaeth Cwnsela bydd yn mynd ar restr aros ar gyfer yr ardal. Bydd y cyfeiriadau yn cael eu prosesu yn ôl dyddiad a gall fod rhestr aros hir mewn rhai ardaloedd. Bydd unigolion yn cael cynnig dyddiad i gyfarfod a’r cwnselydd ardal fydd yn asesu ac yn cytuno ar ffordd ymlaen efo’r person ifanc. Gall hyn olygu hyd at 6+ sesiwn wythnosol o gyfarfod efo’r cwnselydd yn yr ysgol. Mae’r gwasanaeth ar gael ar ddyddiau penodol yn mhob ardal yn ystod y tymor ysgol yn unig, nid gwasanaeth brys ydy’r gwasanaeth cwnsela.


Cyfeiriadau na fydd yn addas

Fe all cyfeiriad fod yn anaddas os ydy plentyn/person ifanc:

  • Wedi cael cynnig cefnogaeth therapiwtig gan wasanaeth arall.
  • Fod risg dybryd o hunan-laddiad, hunan-anafu difrifol, ymddygiad seicotig – dylai cyfeiriad brys gael ei wneud i ysbyty.
  • Fod gwir risg o berygl iddynt eu hunain neu eraill. 
  • Yn rhan o broses cyfreithiol – byddai angen sicrhau dilyn protocol yr heddlu o ran therapi cyn achos llys.


Ystyriaethau Eraill

Os, ym marn y cwnselydd, fod y plentyn yn gymwys o dan reolau Gillick (Gillick competence) mae gan y plentyn/person ifanc hawl i weld cwnselydd heb ganiatâd rhieni/gofalwyr/athrawon. Argymhellir cyswllt rhwng gweithwyr os ydy Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) neu meddyg teulu yn gwneud y cyfeiriad. Fe all y cwnselydd fod o’r farn nad ydy’r gwasanaeth yn addas ar gyfer rhai cyfeiriadau, bydd y sawl sydd yn cyfeirio yn cael gwybod. Ni fydd unrhyw adborth yn cael ei roi i gyfeirwyr, oni bai ei fod ar gais y person ifanc. Os bydd angen datgelu gwybodaeth mewn achos llys bydd angen caniatad wedi ei arwyddo gan y person ifanc.


Plant a phobl Ifanc na fyddai yn addas ar gyfer gwasanaeth Cwnsela

Rhai efo symptomau sydd yn awgrymu salwch meddwl megis seicosis, iselder dwys, anhwylderau bwyta amlwg, PTSD.

Rhai efo anhwylderau niwroddatblygol a/neu niwroseiciatryddol cymhleth a fyddai angen asesiad gan dim aml-ddisbyblaethol.

 

Pwy arall sy'n gallu helpu?

https://youngminds.org.uk Rydym yn arwain y frwydr am ddyfodol lle mae meddyliau pobl ifanc yn cael eu cefnogi a'u grymuso, beth bynnag yw'r heriau.

www.mind.org.uk Rydym yn darparu cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy'n dioddef o broblem iechyd meddwl. Rydym yn ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth.

www.cruse.org.uk Mae ein gwefan Hope Again (http://hopeagain.org.uk) yn wefan sydd wedi'i chynllunio ar gyfer pobl ifanc gan bobl ifanc. Mae'n cynnwys gwybodaeth a byrddau negeseuon lle gall pobl ifanc rannu eu profiadau.

https://www.camhs-resources.co.uk/downloads Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

https://www.youtube.com/watch?v=XiCrniLQGYc  Fideo BlackDog - 'I had a black dog, his name was depression'

Adnoddau 

RAZOR VIEW ERROR
Path: /SiteElements/Razor/FfeiliauADYaCh.cshtml
Error: The remote server returned an error: (500) Internal Server Error.