Meddwl addysgu eich plentyn yn y cartref

Mae dadgofrestru eich plentyn er mwyn ei addysgu gartref yn benderfyniad mawr a mae’n bwysig eich bod yn cymryd y cam o ddifri. Mae addysg eich plentyn yn holl bwysig er mwyn ei baratoi at weddill ei fywyd.

Nid oes rhaid i chi fod yn athro cymwysedig i ddarparu addysg i’ch plentyn yn y cartref. Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol nad yw’r Awdurdod Addysg Lleol yn darparu cyllid, gwasanaeth addysg na chynlluniau neu adnoddau gwaith ar gyfer yr Addysg Ddewisol yn y Cartref (ADdG). 

Fel rhiant neu warchodwr rydych yn ysgwyddo’r holl gyfrifoldeb o ddarparu addysg effeithlon ac addas, llawn amser i’ch plentyn. Rhaid i chi sicrhau fod eich plentyn yn datblygu yn unol â’i oedran, gallu ac os oes ganddo/ganddi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), mae’n ofynnol fod  anghenion y rheiny yn cael eu diwallu.

 

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr sy'n addysgu eu plant yn y cartref ac i'r rheiny sy'n ystyried gwneud hynny.

Addysg yn y cartref: llawlyfr i addysgwyr yn y cartref

 

Dyma rai ffactorau i’w hystyried cyn dadgofrestru eich plentyn o’r ysgol:

  • Mae’n gyfrifoldeb mawr a fydd yn mynnu amser ac egni sylweddol.
  • Cysylltwch â sefydliadau addysgu gartref i siarad â rhieni eraill sydd eisoes yn addysgu gartref.
  • Edrychwch ar y costau sydd ynghlwm ag addysgu gartref.
  • Cofiwch fod rhaid sicrhau bod cyfleoedd i’ch plentyn gymdeithasu gyda phlant eraill, yn unigol a mewn grwpiau.
  • Peidiwch a dadgofrestru eich plentyn yn dilyn anghytundeb/anghydfod gyda’r ysgol. Cysylltwch gyda’r Swyddog Lles i drafod opsiynau sydd gennych pe bai dirywiad yn eich perthynas gyda’r ysgol.
  • Rhaid sicrhau fod lles eich plentyn yn cael blaenoriaeth gennych ar bob cyfrif.

Wedi i chi ystyried y ffactorau uchod yn ofalus ac eich bod yn dymuno addysgu eich plentyn gartref, dylid ysgrifennu llythyr i’r ysgol yn nodi eich bwriad. Unwaith fydd y Pennaeth wedi ei dderbyn, bydd ffurflen swyddogol yr Awdurdod Addysg Lleol yn cael ei chwblhau a’i gyrru i’r Adran ADYaCh. Yn dilyn hynny bydd Swyddog Lles Addysg eich ardal yn cysylltu gyda chi i drefnu dyddiad i gwblhau asesiad cychwynnol.

Fel Awdurdod Addysg Lleol mae gennym gyfrifoldeb i adnabod plant sydd mewn oed statudol ysgol nad ydynt wedi cofrestru mewn unrhyw ysgol. O’r herwydd mae’n ddyletswydd arnom i wirio eu bod yn derbyn darpariaeth addysg addas. Yn sgil hyn,  bydd y Swyddog ADdG yn cynnig ymweliad yn flynyddol, neu yn fwy aml  os oes angen. Bydd yr Athrawon Arbenigol yn cydweithio gyda’r teulu ac yn  eich cefnogi. Os nad yw’r ddarpariaeth addysg yn addas, yna fe all yr Awdurdod Addysg Lleol ddechrau’r broses o Orchymyn Mynychu Ysgol (School Attendance Order).


Cysylltwch â ni

Os hoffech drafod addysg ddewisol yn y cartref, gallwch gysylltu â'r Athrawon Arbenigol Addysg Ddewisol yn y Cartref (ADdG). 

Pwy ydi’r tîm?
Athrawon Arbenigol Addysg Ddewisol yn y Cartref (ADdG) 

Gwenllian McAteer

Ffôn: 07976 966 305

e-bost : elengwenllianmcateer@gwynedd.llyw.cymru

Sarah Jones

e-bost: sarahjones2@gwynedd.llyw.cymru

 

Manylion cyswllt eich Awdurdod Lleol 


Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn - Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Cyfeiriad: Adran Addysg, Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SE
Ffôn: 01286 679007
Ebost: GweinyddolADYaCh@gwynedd.llyw.cymru
Gwefan: www.adyach.cymru