Coronafirws - Rhieni a gofalwyr

 CF Ddim yn Siwr Sut i Siarad Hefo Plant am Coronafirws

Mae’n debygol y bydd eich plant wedi clywed llawer o sôn am y Coronafirws yn yr ysgol, ar y newyddion ac ar y we. Mae rhai o’r pethau maent yn eu clywed yn gallu creu pryder pellach a gall wneud yn anoddach i chi eu helpu i ddeall beth sydd yn mynd ymlaen. Chi ydi’r ffynhonnell orau o wybodaeth i’ch plant a gallwch chwarae rôl allweddol i helpu nhw i wneud synnwyr o’r hyn sydd yn digwydd.

Mae’n bwysig cyflwyno gwybodaeth gywir, yn onest ac mewn ffordd sydd yn addas i’w hoed.

Mae Cymdeithas Seicoleg Prydain wedi creu'r ddogfen yma i’ch cefnogi (fersiwn Cymraeg i ddilyn) 

 CF Peidio a Chynhyrfu

Mae plant yn dysgu gan y bobl allweddol ac oedolion o’u cwmpas. Mae’n bwysig felly ein bod ni hefyd yn peidio â chynhyrfu. Mi all gweld ni yn pryderu a chynhyrfu gwneud iddyn nhw boeni mwy. Mae’n bwysig ein bod yn eu cysuro a gwneud iddynt deimlo yn saff. Mae llawer o wybodaeth er mwyn eich cefnogi chi i gefnogi eich plant yn ystod y cyfnod hwn.

 CF Syniadau i Helpu

 

  • Cadw / creu rwtîn er mwyn cadw pethau mor arferol â phosib: Byddwn yn ychwanegu enghreifftiau ar ein gwefan yn fuan.
  • Cyfyngu amser (chi a’ch plant) ar gyfryngau cymdeithasol: mae hyn yn lleihau tebygolrwydd o weld a chlywed am newyddion sydd ddim yn dod o ffynonellau priodol/cywir.
  • Ymbellhau cymdeithasol ond agosrwydd emosiynol: er ein bod angen cadw pellter cymdeithasol, mae’n bwysig ein bod yn defnyddio technoleg a dulliau amgen er mwyn cadw cysylltiad agos gyda’r bobl o’n cwmpas.
  • Ffocysu ar y pethau gallwn eu rheoli: atgyfnerthu'r pethau gallwn eu rheoli megis golchi dwylo.
  • Os ydi’r straen yn ormod, canolbwyntiwch ar y cysylltiad: os ydi straen y sefyllfa yn mynd yn ormod, ac mae ceisio gwneud gwaith ysgol yn achosi mwy o straen, canolbwyntiwch ar y cysylltiad rhwng chi a’ch plant. Chwaraewch gem, cymrwch amser i gael ‘cwtsh’, gwyliwch ffilm gyda’ch gilydd - eich perthynas chi ydi’r peth pwysicaf.

 

Mae rhagor o wybodaeth i’w gael ar y gwefannau isod: