Beth sy'n digwydd ar ôl i mi adael ysgol?

Mae pontio o’r ysgol i addysg a hyfforddiant ôl-16 yn gyfnod pwysig iawn ym mywyd pob person ifanc.

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi adael ysgol? 

Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn mynychu coleg Addysg Bellach.

Mae colegau Addysg Bellach yn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau er mwyn diwallu anghenion dysgwyr. 

Mae darpariaeth gyffredinol ar gael ar gyfer pob dysgwr a bydd anghenion llawer o bobl ifanc ag anawsterau dysgu a / neu anableddau yn cael eu diwallu yn y modd hwn. Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn gallu cael mynediad at addysg a hyfforddiant drwy ddarpariaeth gyffredinol.

Bydd Cynllun Datblygu Unigol (CDU) gan ddysgwr sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol.

 

Beth yw Cynllun Datblygu Unigol (CDU)? 

Dogfen gyfreithiol yw CDU sy’n disgrifio anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc, y cymorth sydd ei angen arnyn nhw a’r canlyniadau yr hoffent eu cyflawni. 

  • Bydd plant sydd ag ADY yn gallu trafod prosesau pontio o Flwyddyn 9 ymlaen, yn ystod eu cyfarfod adolygu’r CDU. Yma, gallant ddysgu mwy am y cyfleoedd a’r llwybrau sydd ar gael iddynt a bydd modd iddynt ofyn cwestiynau. Gall Gyrfa Cymru a staff y coleg hefyd fynychu i gefnogi dysgwyr a’u rhieni yn y cyfarfodydd hyn.
  • Bydd yr ysgol a’r Awdurdod Lleol ar gael i roi cyngor ar y llwybrau sydd ar gael ar gyfer y dysgwr. 
  • Lle bo’n briodol, bydd dysgwyr yn trosglwyddo i’r coleg gyda’u CDU, a bydd y coleg yn gweithio gyda phob person ifanc er mwyn sicrhau bod y cynllun yn addas ar ei gyfer o fewn y cwrs o’i ddewis.
  • Os yw'r person ifanc rhwng 16 a 25 oed, bydd angen iddynt gydsynio llunio neu gynnal y cynllun.

Mwy am ddulliau sydd yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn i lunio CDU

 

ol16_braenaruADY_gwefan

Fideos am fywyd coleg a'r gefnogaeth sydd ar gael 
Gwyliwch y fideos(braenaruady.cymru)

Fel teulu, a hoffech gael rhagor o wybodaeth? Mae’r fideos yma yn dangos beth allwch ei ddisgwyl yn ystod pob cam o’r broses. Cyfle i wrando ar fyfyrwyr y coleg a’u teuluoedd yn siarad am eu profiadau eu hunain o symud o ysgol i addysg bellach. Gwyliwch fideos gan fyryrwyr a'u teuluoedd (braenaruady.cymru)

Pamffled Gwybodaeth - Pontio o’r ysgol i addysg a hyfforddiant ôl-16 ar gyfer pobl ifanc ag ADY

 

Cwrs Coleg? Chweched dosbarth? Prentisiaeth?  - beth yw fy opsiynau?

Opsiynau Ôl-16

 

Nid oes gen i CDU, ond rwy'n meddwl fod gen i ADY - beth dylwn i ei wneud?

Bydd pobl ifanc sy’n gofrestredig fel myfyrwyr mewn coleg Addysg Bellach (SAB) all fod ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael eu anghenion wedi’u hadnabod trwy’r coleg yn y lle cyntaf. Mewn nifer fach o achosion dwys a chymhleth gall y coleg cyfeirio achos person ifanc (gyda chydsyniad y person ifanc) i Awdurdod Lleol am gyngor a chefnogaeth pellach. 

Dwi'n myfyrwiwr coleg - siaradwch gyda'ch athro, tiwtor personol, neu Cydlynydd ADY yn y coleg

Dwi heb cofrestru gyda coleg - cysylltwch â ADY16@gwynedd.llyw.cymru am ragor o wybodaeth.