Pwy all helpu?

 

 CareersWalesLogo_medium[1]

Gyrfa Cymru

Ydych chi wedi dechrau meddwl am eich opsiynau ar gyfer y dyfodol? Sut y gall Gyrfa Cymru helpu?

Gall Gyrfa Cymru roi gwybodaeth cyngor a chyfarwyddyd er mwyn eich helpu i gynllunio

Ffôn: 0800 028 4844

Gwefan: Gyrfa Cymru

Ffyrdd o gysylltu gyda Gyrfa Cymru, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Taflen Wybodaeth Gyrfa Cymru - Gweler Adran 'Adnoddau' isod

 

 

snap_logo

SNAP Cymru

Gall bobl ifanc a'u teuluoedd Gwynedd ac Ynys Môn gael mynediad at Wasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth ADY. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan SNAP Cymru ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol ar gyfer pobl ifanc sydd ag (neu sydd o bosibl ag) anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn yn cynnwys datrys anghytundebau ac eiriolaeth ADY ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, sef SNAP Cymru, trwy ddefnyddio'r manylion isod.

Llinell Gymorth SNAP Cymru - Llinell Gymorth: 0808 801 0608 manylion ac oriau agor

e-bost: enquiries@snapcymru.org

www.snapcymru.org

 

Pamffled SNAP Cymru - Gwybodaeth a Chyngor i Bobl Ifanc

Pamffled SNAP Cymru - Beth os na allwn ni gytuno? - Anghenion Dysgu Ychwanegol - Datrys Anghytundebau

Pamffled SNAP Cymru - Gwybodaeth, Cyngor a Help gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

Eiriolaeth Annibynnol ADY i blant a phobl ifanc

Mae SNAP Cymru hefyd yn darparu ein gwasanaeth eirioli annibynnol er mwyn derbyn cyngor a gwybodaeth arbenigol, trwy gynrychiolaeth neu fel arall, i blentyn neu berson ifanc, gan gynnwys cyfaill achos plentyn.

Pamffled SNAP Cymru  - Anghenion Dysgu Ychwanegol - Eiriolaeth Annibynnol

 

Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Deddf Cydraddoldeb 2010)

Pamffled SNAP Cymru - Gwahaniaethu ar Sail Anabledd