Gwybodaeth Ôl-16

Mae eich taith ôl-16 yn un bwysig. Mae amryw o opsiynau ar gael i bobl ifanc. Mae trefniadau o fewn Gwynedd ac Ynys Môn os oes gan dysgwr ADY, gan gynnwys cefnogi'r pontio i addysg neu hyfforddiant. 

 

Fel rhan o gynllun Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Llywodraeth Cymru, mae rhai trefniadau ar gyfer pobl ifanc sy’n ymuno ag addysg a hyfforddiant ôl-16 yn newid. 

Gwybodaeth i bobl ifanc: Gwybodaeth am pryd y bydd pobl ifanc yn symud i'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Hawdd ei ddarllen: Rhoi'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd ar waith rhwng Medi 2021 a Awst 2024 (hawdd ei ddarllen)

Ar gyfer rhieni a theuluoedd: Gweithredu'r system anghenion dysgu ychwanegol rhwng Medi 2021 ac Awst 2024: canllaw i rieni a theuluoedd

 

Er mwyn cefnogi rhieni a theuluoedd i ddeall eu hawliau ymhellach o dan y system ADY, mae canllaw trosolwg a fersiwn hawdd ei ddarllen wedi bod ar gael.

Canllaw i rieni am hawliau o dan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Hawliau o dan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) (hawdd ei ddarllen)