Nam Clyw

Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?

Plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu hasesu gan adran awdioleg mewn ysbyty (Adran Iechyd) ac wedi cael diagnosis o golled clyw.

 Mae’r gwasanaeth yn cefnogi disgyblion rhwng 0-19 oed mewn:

  • Lleoliadau blynyddoedd cynnar
  • ysgolion cynradd
  • uwchradd
  • ysgolion arbennig

 

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

Mae’r gwasanaeth Nam Clyw yn gweithio efo rhieni, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i wneud yn siŵr bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn:

  • Cael cyfle cyfartal
  • Derbyn yr un addysg yn union â’u ffrindiau mewn ysgolion a chymunedau lleol.
  • Datblygu sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnyn nhw .
  • Cyflawni eu potensial a datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol.
  • Darparu gwasanaeth wedi’i deilwra i blant a phobl ifanc y ddwy Sir drwy ddilyn safonau ansawdd cenedlaethol NatSIP (National Sensory Impairment Partnership).
  • Gwneud yn siŵr bod pobl yn deall beth ydi cynhwysiad addysgol a chymdeithasol a lles disgyblion Nam Synhwyraidd o 0 i 25 oed.
  • Gweithio hefo rhieni ac ysgolion i wneud yn siŵr eu bod yn deall trefniadau cyfeirio at asiantaethau a gwasanaethau perthnasol.

 Mae’r gwasanaeth Nam Clyw yn gweithio efo ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn i sicrhau bod plant a phobl ifanc gyda Nam Clyw yn cael cyfle i wneud popeth sydd ar y cwricwlwm er mwyn lleihau effaith y Nam Clyw ar unrhyw gynnydd academaidd ac ar draws pob agwedd o fywyd y disgyblion. 


Er mwyn gwneud hyn rydym fel gwasanaeth yn gosod yr amcanion canlynol;

  • Gwneud yn siŵr bod staff allweddol o fewn ysgolion gyda’r sgiliau ac adnoddau priodol wrth weithio gyda disgybl gyda nam synhwyraidd.
  • Cynnig gwasanaeth sydd yn helpu disgyblion Nam Synhwyraidd o 0 i 25 oed mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig, i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial.
  • Cynnig amrywiaeth o gymorth addas i ateb anghenion unigol a gofynion y ‘National Sensory Impairment Partnership (NatSIP).
  • Cyflwyno a monitro datblygiad Cwricwlwm Arbenigol ymysg disgyblion Nam Synhwyraidd a sicrhau datblygiad cadarn o’r sgiliau angenrheidiol.
  • Sicrhau bod rhieni yn rhan allweddol o unrhyw gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig.
  • Gweithio efo ag asiantaethau allanol (iechyd/ therapyddion Iaith/ mudiadau gwirfoddol) i sicrhau ymateb ar lefelau gwahanol i gefnogi’r disgyblion.
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau arbenigol y Tîm Nam Synhwyraidd er mwyn cynnal y lefelau arbenigedd sydd ei angen i gefnogi anghenion dwys a chymhleth y disgyblion.

 

Pan fydd disgybl yn cael ei adnabod â Nam Clyw neu Nam Golwg, gyda caniatâd y rhieni/gwarchodwr - bydd gofyn i’r adran berthnasol o’r Ysbyty rannu’r gwybodaeth gyda’r Gwasanaeth Nam Synhwyraidd.

Bydd y cyfeiriadau yn cael eu hystyried, yn unol â Meini Prawf mynediad y Gwasanaeth, gan y Fforwm Ardal ADYaCh (Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad)  

Mewn rhai achosion bydd y Fforwm yn cyfeirio’r Panel Traws Sirol i ystyried yr achos. Mae effeithiolrwydd y strategaethau arbenigol yn cael eu mesur ac adroddir yn ôl i’r Fforwm ar gynnydd yr unigolyn. Lle nad oes tystiolaeth o gynnydd mae’r gefnogaeth yn cael ei adolygu.

Mae’r gefnogaeth Arbenigol yn dilyn camau clir

Pwy ydi’r tîm?
Athrawon Arbenigol Nam Clyw

Denise Hughes

Jacqueline Adams 

Sian Wyn Mathias

Lois Wyn Hughes

Cymorthyddion Arbenigol Nam Clyw

Non Thomas

  

Sut mae cael mynediad i’r gwasanaeth?

Mae cyfeiriadau i’r gwasanaeth yn dod o’r gwasanaeth iechyd (adrannau awdioleg) ac adrannau arbenigol canolfannau ‘Cochlear Implant’.

Mae cyfeiriadau yn cael eu trafod yn erbyn meini prawf mynediad y gwasanaeth mewn Fforymau Ardal ADYaCh.

 

Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?

 

Beth yw rôl y Swyddog Ansawdd?

 

Beth yw rôl yr ysgol?

Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i greu awyrgylch diogel a gofalus lle y mae’n bosib i bob disgybl ddatblygu’n hapus a hyderus. Er mwyn sicrhau awyrgylch sydd yn gyfeillgar i ddysgwyr gyda nam ar y synhwyrau mae disgwyl i ysgolion:

  • Sicrhau fod unrhyw risgiau yn cael eu targedu.
  • Sicrhau fod yr awyrgylch dysgu a’r ethos yn gynhwysol a chroesawgar.
  • Ymateb ar lefelau gwahanol i anghenion drwy ystyried unrhyw gyngor arbenigol rhesymol.
  • Fesur cynnydd plant/pobl ifanc sydd yn derbyn ymyraethau er mwyn gallu dangos pa mor effeithiol ydynt .
  • Defnyddio asesiadau safonol a chyfeiriol er mwyn gweld cynnydd a phenderfynu ar y gefnogaeth orau addas.
  • Sicrhau bod unrhyw strategaethau/ argymhellion gan y gwasanaeth arbenigol yn eu cynnwys ymhob agwedd o fywyd ysgol y disgybl. 

 

Adnoddau a Gwybodaeth

 

Ieithoedd arwyddion a systemau arwyddion - Canllaw cyflym i Iaith Arwyddion Prydain a systemau arwyddo fel Makaton, Signalong a Cymraeg/Saesneg a gefnogir gan arwyddion

Pwy arall sy’n gallu helpu?

Yr Adran Addysg

Athrawon Arbenigol

Seicolegwyr Addysg

Gwasanaethau Iechyd www.wales.nhs.uk

Adran Awdioleg

Adran ENT (Ear Nose and Throat)

Cwnsela genetig

Pediatrydd

Therapyddion iaith a lleferydd

 

Yr Ysgol

Pennaeth

Cydlynydd ADY (CADY)

Athrawon dosbarth

 

Gwasanaethau Cefnogol

NDCS (National Deaf Children’s Society) www.ndcs.org.uk

C.O.S.S (Centre of Speech and Sound) https://centreofsignsightsound.org.uk

Derwen, Tîm Integredig Plant Anabl (Gwynedd) Derwen Tîm Integredig Plant Anabl (llyw.cymru)

Gwasanaethau Arbenigol Plant (Môn) Plant a Theuluoedd - Ynys Môn (llyw.cymru)

BSL - Grŵp Llandrillo Menai – cyrsiau arwyddo B.S.L. British Sign Language www.British-sign.co.uk / www.gllm.ac.uk

Sgrinio Clyw Babanod Cymru (Newborn Hearing Screening Wales) www.newbornhearingscreening.wales.nhs.uk/

  

Beth fedrwch chi wneud gartref?

Mae gweithio gyda theuluoedd a sicrhau cydweithrediad rhieni yn allweddol ar gyfer perthynas lwyddiannus ag unrhyw ddisgybl.

 

Adnoddau defnyddiol:

Er mwyn lawrlwytho dogfennau’r NDCS (Nation Deaf Children’s Society) bydd rhaid i chi gofrestru. Gallwch ymuno â’r NDCS am ddim  www.ndcs.org.uk/

Gwahanol fathau o golled clyw www.ndcs.org.uk/family_support/childhood_deafness/causes_of_deafness

Lefelau colled clyw a phrofion clyw www.ndcs.org.uk/family_support/childhood_deafness/hearing_tests/index.html

Offer Clyw - H/aid, BAHA, CI www.ndcs.org.uk/family_support/fostering_deaf_children/hearing_devices_different_types/index.html

Sgrinio Baban Newydd www.ndcs.org.uk/family_support/childhood_deafness/hearing_tests/newborn_hearing.html

Adnoddau defnyddiol www.ndcs.org.uk/family_support/new_and_updated_resources/index.html

Anghenion Dwys a Chymleth www.ndcs.org.uk/family_support/additional_and_complex_needs/index.html

Clust lyd www.ndcs.org.uk/family_support/glue_ear/index.html

Nam Prosesu www.ndcs.org.uk/family_support/auditory_processing_disorder/index.html

Cyn-ysgol 
www.ndcs.org.uk/family_support/0_to_4_years/index.html 
www.ndcs.org.uk/family_support/how_ndcs_can_help/my_baby_has_a_hearing_loss/baby_hearing_loss.html

Cynradd
www.ndcs.org.uk/family_support/5_to_10_years

Uwchradd
www.ndcs.org.uk/family_support/11_to_13_years/index.html
www.ndcs.org.uk/family_support/14_years_/index.html

Ôl-Ysgol
www.ndcs.org.uk/family_support/leaving_school

Technoleg www.ndcs.org.uk/family_support/technology_and_products

Cyfathrebu effeithiol gyda’ch plentyn www.ndcs.org.uk/family_support/communication/index.html