Nam Golwg

Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma? 

Plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu hasesu gan Adrannau Offthalmoleg mewn ysbytai ac wedi derbyn diagnosis o golled golwg. 

Mae’r Gwasanaeth yn cefnogi disgyblion rhwng 0-19 oed (tra mewn addysg o fewn ysgol). Rydym yn cefnogi mewn:

  • Cartrefi
  • Lleoliadau blynyddoedd cynnar
  • Ysgolion cynradd
  • Ysgolion Uwchradd
  • Ysgolion Arbennig

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

Mae’r gwasanaeth Nam Golwg yn gweithio gyda rhieni, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i wneud yn siwr bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn:

  • Cael cyfle cyfartal
  • Derbyn yr un addysg yn union â’u ffrindiau mewn ysgolion a chymunedau lleol
  • Datblygu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnyn nhw
  • Cyrraedd ei llawn botensial a datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol a hyderus
  • Darparu gwasanaeth wedi ei deilwra i blant a phobl ifanc y ddwy Sir drwy ddilyn safonau ansawdd cenedlaethol NatSIP (National Sensory Impairment Partnership)
  • Gwneud yn siwr fod eraill yn deall beth ydi cynhwysiad addysgol a chymdeithasol a lles disgyblion Nam Golwg
  • Gweithio hefo’r rhieni ac ysgolion i wneud yn siŵr eu bod yn deall trefniadau cyfeirio at asiantaethau a gwasanaethau perthnasol.

Mae’r gwasanaeth Nam Golwg yn gweithio gyda rhieni, mudiadau ac ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn i sicrhau fod plant a phobl ifanc gyda Nam ar y Golwg yn cael cyfle i wneud popeth sydd ar y Cwricwlwm er mwyn lleihau effaith y Nam Golwg ar unrhyw gynnydd academaidd ac ar draws pob agwedd o fywyd y disgyblion.

Er mwyn gwneud hyn rydym fel gwasanaeth yn gosod yr amcanion canlynol:

  • Gwneud yn siwr bod staff allweddol o fewn ysgolion/ mudiadau addysg gynnar gyda’r sgiliau a’r adnoddau priodol wrth weithio gyda disgybl Nam Golwg
  • Cynnig gwasanaeth sydd yn helpu disgyblion Nam Golwg mewn cartrefi, lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial.
  • Cynnig amrywiaeth o gymorth addas i ateb anghenion unigol a gofynion y ‘National Sensory Impairment Partnership’ (NatSIP)
  • Cyflwyno, dysgu’n uniongyrchol a monitro'r Cwricwlwm Arbenigol (sgiliau gwrando, sgiliau annibyniaeth, Braille, TGCh a datblygiad emosiynol a chymdeithasol) ymysg disgyblion Nam Golwg a sicrhau datblygiad cadarn o’r sgiliau sylfaenol ac angenrheidiol
  • Sicrhau fod rhieni yn rhan allweddol o unrhyw gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig
  • Sicrhau fod rhieni yn derbyn hyfforddiant perthnasol
  • Gweithio gydag asiantaethau allanol (iechyd/ swyddogion symudedd/ swyddogion RNIB/ gweithwyr cymdeithasol a mudiadau gwirfoddol) i sicrhau ymateb ar lefel gwahanol i gefnogi’r disgyblion
  • Datblygu a chryfhau sgiliau arbenigol y Tîm Nam Golwg er mwyn cynnal y lefelau arbenigedd sydd ei angen i gefnogi anghenion dwys a chymhleth y disgyblion.
  • Sicrhau fod gwybodaeth perthnasol feddygol am Nam Golwg y plentyn yn cael ei rannu ( gyda chaniatâd y rhieni)
  • Bydd y Meini prawf yn cael eu hystyried, yn unol â Meini Prawf mynediad y Gwasanaeth, gan y fforwm gwasanaeth a fforwm ardal ADYaCh ( Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad)
  • Mewn rhai achosion bydd y Fforwm yn cyfeirio’r Panel Traws Siriol i ystyried yr achos. Mae effeithiolrwydd y strategaethau arbenigol yn cael eu mesur ac adroddir yn ôl i’r fforwm ar gynnydd yr unigolion. Lle nad oes tystiolaeth o gynnydd mae’r gefnogaeth yn cael ei adolygu
  • Mae’r gefnogaeth arbenigol yn dilyn camau clir.

 

Symudedd a Sefydlu

Ar gyfer unigolion penodol bydd y Gwasanaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn yn comisiynu mewnbwn Swyddog Symudedd a Sefydlu (Habilitation Specialist) cymwysedig. Mae'r pamffled yn egluro:

  • Beth yw Symudedd a Sefydlu (Habilitation)?
    • Symudedd, Cyfeiriadedd a Sgiliau Byw yn Annibynnol
  • Pam Symudedd a Sefydlu?
  • Y Swyddog Symudedd a Sefydlu Cymwys
  • Trosglwyddiadau

Gweler Adran 'Adnoddau' isod i lawrlwytho'r pamffled gwybodaeth Symudedd a Sefydlu.

 

Pwy ydi’r tîm?
Athrawon Arbenigol Nam Golwg

Llinos Vaughan Roberts

Heulwen Pierce Jones

Sara Llwyd Davies

Athrawon Gynorthwyol Nam Golwg

Hanna Gwyn Williams

Uwch Gymorthyddion Arbenigol Nam Golwg

Anna Hughes

Llinos Griffith

 

Sut mae cael mynediad i’r Gwasanaeth?

Mae cyfeiriadau i’r Gwasanaeth yn dod o’r gwasanaeth iechyd (adrannau Offthalmoleg mewn ysbytai), Optegwyr, RNIB, rhieni a gweithwyr cymdeithasol.

Mae cyfeiriadau yn cael eu trafod yn erbyn meini prawf mynediad y gwasanaeth mewn fforymau ardal ADYaCh. 

 

Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?

 

Beth yw rôl y Swyddog Ansawdd?

 

Beth yw rôl yr ysgol?

Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i greu awyrgylch diogel a gofalus lle y mae’n bosib i bob disgybl ddatblygu’n hapus a hyderus. Er mwyn sicrhau awyrgylch sydd yn gyfeillgar i ddysgwyr gyda nam ar y golwg mae disgwyl i ysgolion:

  • Sicrhau fod unrhyw risgiau yn cael eu targedu.
  • Sicrhau fod yr awyrgylch dysgu a cymdeithasol yn gynhwysol a chroesawgar.
  • Ymateb ar lefelau gwahanol i anghenion drwy ystyried unrhyw gyngor arbenigol rhesymol.
  • Fesur cynnydd plant/pobl ifanc sydd yn derbyn ymyraethau er mwyn gallu dangos pa mor effeithiol ydynt .
  • Defnyddio asesiadau safonol a chyfeiriol er mwyn gweld cynnydd a phenderfynu ar y gefnogaeth orau addas.
  • Sicrhau bod unrhyw strategaethau/ argymhellion gan y gwasanaeth arbenigol yn eu cynnwys ymhob agwedd o fywyd ysgol y disgybl.

 

 

Pwy arall sy’n gallu helpu?

Adran Offthalmoleg Ysbyty Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

RNIB Cymru

Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru

Guide Dogs Cymru

Centre of Sign Sight Sound 

Derwen, Tîm Integredig Plant Anabl (Gwynedd) 

Gwasanaethau Arbenigol Plant (Môn)

 

Beth fedrwch chi wneud gartref?

Mae gweithio gyda theuluoedd a sicrhau cydweithrediad rhieni yn allweddol ar gyfer perthynas lwyddiannus ag unrhyw ddisgybl. 

Perthynas rhieni gyda’r ysgol

  • Rhannu gwybodaeth am gyflwr gweledol eich plentyn gyda’r ysgol
  • Cadw cysylltiad agos gyda’r ysgol/tîm cefnogol yr ysgol
  • Dilyn rhaglenni gan Athrawon Arbenigol Nam Golwg 

Perthynas rhieni gyda’r Gwasanaeth Iechyd

  • Mynychu profion llygaid rheolaidd Ysbytai neu gan Optegwyr
  • Cysylltu efo’r doctor os oes unrhyw newid yn llygaid/ymddygiad/patrwm arferol eich plentyn
  • Dylid cydymffurfio gyda unrhyw gyfarwyddyd i’ch plentyn wisgo patch.

Cysylltu gydag eraill

  • Dysgu popeth y gallwch am nam golwg eich plentyn. Mwyaf rydych chi'n ei wybod, y mwyaf y bydd yn eich helpu chi ac yna gallwch chi helpu eich plentyn.
  • Creu system gefnogi i’ch helpu – creu cyswllt gyda rhieni nam golwg eraill i rannu syniadau
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn ran o fudiadau neu cyrsiau all-gyrsiol

Defnyddio Cymhorthion Cynorthwyol

  • Anogwch eich plentyn i ddefnyddio y cymhorthion cynorthwyol megis sbectol neu  chwyddwydrau a roddwyd gan yr optegydd neu adran offthalmoleg. 

Datblygu Cysyniadau

  • Rhowch gyfarwyddiadau clir i’ch plentyn fel ei fod o yn dysgu am gysyniadau megis mawr/ bach i’r chwith ac i’r dde, pell ac agos 
  • Helpwch eich plentyn i archwilio pethau newydd gyda'i synhwyrau. Rhowch lawer o gyfle i gyffwrdd ac ymchwilio i wrthrychau, gofyn cwestiynau, a chlywed esboniadau o'r gwrthrychau yma. 
  • Disgrifiwch y byd o’u cwmpas ar lafar (byd natur, anifeiliaid, lan y mor ac yn y blaen)
  • Anogwch eich plentyn i wrando ar synau

Cyfeiriannu a Symudedd

  • Atgoffwch eich plentyn i wynebu'r person y mae ef / hi yn siarad neu'n gwrando ac yn ei annog i fynegi ei deimladau a'i anghenion mewn ffordd briodol.

Sgiliau Byw

  • Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn cael cyfle i gymryd rhan mewn tasgau yn y cartref megis paratoi diod, coginio, gwisgo yn annibynnol a chadw’n lân.

 

Adnoddau